M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Explorage.com yn Lansio Platfform Newydd

Emily Roberts

Mae Explorage.com, marchnad ar-lein ar gyfer hunan-storio, yn falch o gael cyhoeddi lansiad platfform newydd gwell.

Yn dilyn llwyddiant gyda codi arian yn yr Hydref, aeth y cwmni sydd wedi’i leoli ar Ynys Môn ati gyda lansiad-meddal o fersiwn cyntaf y safle. Fodd bynnag, mae’r platfform newydd yma yn nodi carreg filltir fawr i’r tim sydd yn parhau i wthio ymlaen gydag angerdd a phenderfynoldeb.

Gwerth tua £48 biliwn y flwyddyn, mae’r farchnad storio byd-eang yn fusnes mawr Mae oddeutu 27,000 o archebion storio bob mis yn y DU, ond eto mae canfod, cymharu a chadw’r ateb cywir wedi bod yn anghyson a hirwyntog o’r blaen.

Amlygodd Anna Roberts, Prif Swyddog Gweithredol a sylfaenydd, “Ers lansio rydym wedi bod yn gwrando’n astud ar weithredwyr storio a chwsmeriaid yn rhannu eu profiadau, problemau a syniadau ar sut y gallwn ni, a’r diwydiant cyfan, gael ei wella. Mae hyn yn rhoi darlun ystyrlon ar gyfer creu atebion arloesol a gwelliannau, sy’n rhoi gwerth gwirioneddol. Fe wnaethom lansio’n feddal ym mis Tachwedd a’i alw’n “fersiwn 0.9”. Roeddem yn gwybod y byddem yn tyfu’n rhy gyflym iddo, felly dyna pam yr enw, ac roeddem eisiau cael ein harwain gan ein cwsmeriaid ar sut i’w wella. Mae’r “fersiwn 1.0” newydd yn gam mawr ymlaen yn nhermau profiad defnyddiwr a galluoedd technegol ac yn rhoi sylfaen wych i Explorage i barhau i dyfu ac adeiladu”.

Y newid mwyaf amlwg i’r safle newydd yw’r edrychiad newydd ffres, wedi’i ddylunio i fod yn syml, cyfeillgar a greddfol. Parhaodd Anna, “Rydym eisiau gwneud bywyd yn haws i bobl, ac yn credu mewn gwneud hyn drwy gyfathrebu gyda phobl fel bodau-dynol yn y lle cyntaf. Mae defnyddio egwyddorion sylfaenol megis gwrando, empathi, hwyl a charedigrwydd yn ein helpu i lywio tuag at greu gwasanaeth sy’n rhesymegol, yn sydyn ac yn hawdd i ymgysylltu ag ef. Mae bywyd yn rhy fyr ar gyfer profiad gwael gan ddefnyddiwr; drwy gyfuno yr ymatebion technegol gorau gyda “synnwyr cyffredin” sy’n canolbwyntio ar fodau-dynol rydym eisiau brand sydd yn rhoi rhyddhad i’r rhai sydd yn delio efo ni”.

Un o’r gwelliannau technegol mwyaf arwyddocaol i’r safle yw’r profiad ar gyfer gweithredwyr storio sy’n rhoi eu cyfleuster ar y platform. Gallant nawr wneud hyn eu hunain mewn munudau. Drwy ychwanegu ychydig o fanylion syml, mae platfform Explorage yn tynnu data o amrywiaeth o ffynonellau er mwyn cyflymu’r broses, ac mae’r defnyddiwr yn cael ei arwain yn gyflym drwy’r camau. Unwaith mae’n fyw, mae eu cyfleuster storio ar gael i unrhyw un sy’n ymweld â Explorage.com i’w archebu’n yn syth.

Esboniodd Anna, “Un gwahaniaeth mawr efo Explorage yw cyflymder. Rydym yn deall nad yw cwsmeriaid eisiau disgwyl am amcanbris neu argaeledd. Yn hytrach, ar Explorage, maent yn gweld beth sydd ar gael, faint yw’r gôst, a gwneud archeb yn y fan a’r lle. Mae’r gwahaniaeth yma yn arwyddocaol ar gyfer gweithredwyr-storio sy’n derbyn yr archeb, gan ei fod yn golygu y gallant ddal mwy o gwsmeriaid o ddemograffeg ehangach unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.”

Gwelliant arall arwyddocaol i’r safle yw’r gallu i weithredwyr-storio ychwanegu a golygu eu Cwestiynau Cyffredin a phwyntiau gwerthu eu hunain, a chwsmeriaid storio yn gallu gweld rhain ar gip. Mae Anna yn nodi, “gwyddom fod gwahaniaethu a phrofiad cyfyngedig cwsmeriaid ymhlith rhai o bryderon y diwydiant storio yn y DU – ac maent yn bwyntiau dilys iawn. Mae heriau o’r fath yn gyfle gwych i ni greu a phrofi datrysiadau amrywiol, a all yn y tymor hwy ond helpu i dyfu’r diwydiant a dealltwriaeth cwsmeriaid wrth iddynt ddod yn fwy effeithiol.”

Mae platfform newydd Explorage.com yn cael ei groesawu gan weithredwyr storio ar hyd a lled y wlad. Dywedodd Dean Daley, Rheolwr Gweithrediadau Masnachol yn Blue Self Storage yng Nghaerdydd, “Mae safle newydd Explorage.com yn edrych yn wych, ac rydym yn edrych ymlaen at elwa o’r manteision y bydd y platfform yn ei gynnig i weithredwyr o fewn y diwydiant storio.”

Mae Explorage.com yn prysur ddod yn farchnad i gwsmeriaid fynd iddi wrth chwilio am hunan-storio, ac mae’r wefan newydd a gwell yn sicr o gadarnhau ei safle fel arweinydd yn y maes hwn.

Nododd Lisa Rogerson, creawdwr canllaw i symud ty “Help for Movers”, gwraig filwrol ac enillydd gwobr #QueenofMoving: “Mae’n wych gweld safle newydd Explorage.com yn fyw. Mae’n welliant mawr ac mae’n sicr y bydd yn ei gwneud yn haws dod o hyd i storio ac archebu lle i rai sy’n symud ty.”

Wrth siarad am y garreg filltir, dywedodd Anna “Rydym yn falch iawn o gael lansio platfform newydd Explorage.com a pharhau ar ein cenhadaeth i wneud bywyd yn haws i bawb. Rwyf mor falch o’n tim sydd yn adlweyrchu popeth yr ydym yn ei gylch. Nid ydynt byth yn blino arloesi ac ymdrechu i sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer ein rhwydwaith gweithredwyr-storio a chwsmeriaid sy’n tyfu’n gyflym, ac rydym yn hynod gyffrous i barhau â’n taith efo nhw”

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc ble mae Explorage wedi’i lleoli “Rydym ni yn M-SParc yn falch o gael cefnogi Explorage, a’u huchelgais i fod yn gwmni byd-eang. Mae’r math yma o arloesedd yn cael ei eni yng Nghymru a gall ffynnu yng Nghymru. Mae’n gyffrous gweld y cwmni yma’n datblygu ac yn ffynnu ac yn creu swyddi ar gyfer pobl leol”.

Newyddion Perthnasol