Lansio Gofod Cymraeg; gofod ar-lein i ddefnyddio eich Cymraeg

Author picture

Awyddus i ddysgu Cymraeg, ailgydio yn yr iaith, neu fagu hyder?

Mae M-SParc wedi lansio prosiect Iaith a Gwaith; gyda’r nod o wella iaith unigolion drwy eu trochi yn y Gymraeg mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn cael mwy o siaradwyr Cymraeg yn y gweithle.

Un rhan o’r prosiect uchelgeisiol yw’r gofod digidol ar Discord sy’n galluogi unigolion i ymarfer eu sgiliau Cymraeg wrth sgwrsio ar lafar ac yn ysgrifenedig gydag eraill. Bydd cwmni gyfieithu Cymen a chanolfan threftadaeth a’r iaith Nant Gwrtheyrn wrth law i ateb cwestiynau a chynnig cyngor arbenigol. Rydym hefyd yn gweithio gydag Age Cymru a Chanolfan Bedwyr, fydd yn gwirfoddoli eu hamser i sgwrsio ar y sianel.

Bob dydd Gwener am 12:30 tan ddiwedd y flwyddyn, bydd wynebau cyfarwydd o ddiwylliant Cymru wrth law am sgwrs fyw, yn rhannu straeon am eu defnydd o’r iaith, ac yn ateb eich cwestiynau. Y tri cyntaf oedd y digrifwr a’r cerddor Hywel Pitts, Gareth yr Orangutan, a’r actores, cyflwynydd a bardd Caryl Bryn. Gallwch wrando yn ôl ar y sgyrsiau hyn ar ein sianel YouTube.

Fe fydd adnodd o Ofod Cymraeg Digidol yn werthfawr i weithwyr a chyflogwyr yng Ngwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gâr. Mae’r Cynllun Academi Iaith Gwaith drwy law M- SParc wedi galluogi gweithwyr i datblygu eu sgiliau Cymraeg o fewn y gweithle.

Anwen Davies, Rheolwr Rhanbarthol ARFOR

Elfen gyffrous arall o’r cynllun yw’r Academi Sgiliau, sydd yn weithredol ar hyd rhanbarthau Arfor ac yn cynnig lleoliad gwaith cyflogedig i 10 o unigolion. Mae’r cynllun hefyd yn caniatau i’r unigolion gael eu trochi yn y Gymraeg tra eu bod nhw’n gweithio. Un o’r unigolion sydd wedi manteisio ar y cyfle yw Chiara Antoniazzi.

Mae bod yn rhan o’r Academi Sgiliau Arfor wedi bod yn wych hyd yn hyn. Gyda gradd mewn ffasiwn, roeddwn angen mwy o brofiad mewn marchnata, a dyna’n union beth mae M-SParc wedi ei roi i mi. Rwyf wedi ymuno’r tîm marchnata i arwain ar gynnwys i ddigwyddiadau fel cynhadledd Digidol 24, creu graffeg ar gyfer wahanol ymgyrchoedd, a uwchsgilio wrth olygu fideos a podlediadau.

Chiara Antoniazzi, Swyddog Marchnata, Academi Sgiliau M-SParc

Mae Chiara a’r criw hefyd yn derbyn gwersi Cymraeg arbennig, sydd wedi ei greu yn benodol ar gyfer y rhaglen, er mwyn magu hyder a’r defnydd o’r iaith bob dydd. Mae M-SParc yn cydweithio gyda Phrifysgol Bangor i greu’r a darparu’r rhaglen gyda gwersi a chymorth ieithyddol wedi’u teilwra i unigolion a’i anghenion nhw, naill ai i loywi iaith, derbyn cymorth ar ddarn penodol o waith, neu i ymarfer: 1 i 1, ar lein, neu cymorth wyneb yn wyneb. Bydd M-SParc yn gweithio i barhau i ddatblygu’r cynnig wedi i brosiect Arfor ddod i ben. Hyd yma mae pob aelod yn adrodd eu bod wedi cael fwy o hyder ac yn defnyddio mwy o’r iaith – adborth gwych! 

Yn unol a’r cynllun mae lleoliadau ffisegol sef ‘Gofodau Cymraeg’ hefyd wedi’u creu. Gofodau yw’r rhain lle all bobl gerdded i mewn i yn gwybod eu bod yn gallu ymarfer eu sgiliau iaith yno. Mae’r lleoliadau yma yn cynnwys M-SParc, lleoliadau Ar y Lon ym Mangor, Pwllheli a Bala, ac Yr Egin yn Sir Gâr. 

Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Cronfa Her Arfor drwy Llywodraeth Cymru. 

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.