M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Swyddfeydd a Labordai
Gofod

Y gofod perffaith i'ch busnes

Pam dewis swyddfa o fewn M-SParc

Gall M-SParc ddarparu amrywiaeth ardderchog o ofod ar gyfer eich busnes; o swyddfeydd bach i gwmnïau newydd. i swyddfeydd mwy,i labordai neu weithdai ar gyfer cwmnïau sefydledig.

Mae gennym gyfleusterau rhagorol, cymorth busnes pwrpasol, gofod swyddfa hyblyg, gweithdai glân a chymysgedd o labordai ar y safle.

Rydyn ni’n darparu llawer mwy na phedair wal – pan fyddwch chi’n dewis lleoliad busnes yn M-SParc rydych chi’n dewis dod yn rhan o gymuned gydweithredol o bobl o’r un anian. Byddwch yn cael y cyfle i fynychu digwyddiadau, gweithdai, ac amrywiaeth o sesiynau rhwydweithio i adeiladu eich cysylltiadau. Darperir cymorth busnes fel rhan o’r hyn a gynigir; rydym am weld ein cwmnïau tenantiaid yn tyfu, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu i gyflawni eu huchelgeisiau.

Yn safonol byddwch yn derbyn

  • Band eang cyflym iawn
  • Mynediad i’ch swyddfa 24/7
  • Dodrefn ar gyfer swyddfeydd bach
  • Gwasanaeth derbynfa pwrpasol yn ystod oriau swyddfa
  • Mynediad i gawodydd ac ystafell sychu
  • Cyfle i ymuno â champfa’r Ffwrnes
  • Te a choffi am ddim yn y gegin fach
HANESION LLWYDDIANT

Gwarchod Enwau Lleoedd Cymraeg… un GIF ar y tro.- Stori Lwyddiant

O fewn ei phrosiect, mae Sioned yn cydweithio gyda disgyblion uwchradd a chynradd Gogledd Cymru i ddylunio a hyrwyddo cyfres o sticeri GIFs Enwau Lleoedd Cymraeg.
Pryderi ap Rhisiart, llun proffil mewn ystafell cyfarfod

Cymerwch ran

A gadewch i ni gyflawni’r canlyniadau gorau gyda’n gilydd.