Grant Digidol

Grant Digidol: Cymorth Digidol i Fusnesau Ynys Môn

Barod i gamu i fyny eich gêm ddigidol? Ddim yn siŵr pa offer neu systemau sy’n iawn i’ch busnes? Am drawsnewid dy fusnes yn ddigidol ond ddim yn siwr lle i gychwyn arni? Paid a phoeni, mae M-SParc yna i helpu.

Mae technoleg ddigidol yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu busnesau i dyfu, dod yn fwy effeithlon, ac aros mewn cysylltiad. Mae ein Grant Digidol wedi’i gynllunio i gefnogi cwmnïau ar Ynys Môn sy’n awyddus i fuddsoddi mewn meddalwedd neu atebion cysylltedd – boed hynny’n uwchraddio systemau, gwella profiadau cwsmeriaid, neu symleiddio gweithrediadau.

O offer sy’n seiliedig ar y cwmwl i uwchraddio cysylltedd a meddalwedd arbenigol, gall y grant eich helpu i wneud buddsoddiadau strategol sy’n dod â gwir effaith ar eich gweithrediadau o ddydd i ddydd.

Cymhwysedd

Mae’r grant ar gael i unrhyw fusnes sydd wedi’i leoli yn Ynys Môn. Rhaid i ymgeiswyr ddangos cynllun clir ar gyfer trawsnewid digidol.

Prynu’n Lleol

Er mwyn cefnogi’r economi ddigidol a thechnoleg leol, gofynnwn i chi ystyried defnyddio cyflenwyr sydd wedi’u lleoli yn Ynys Môn, Gwynedd neu Gonwy. Ni fydd hyn yn rhan o’r broses asesu, ond gofynnir i chi esbonio’r camau a gymerwyd gennych i ddod o hyd i gyflenwr lleol a’ch rhesymau os dewiswch beidio â defnyddio un.

Peidiwch â phoeni, os nad ydych yn siŵr ar beth a ble y gellid ei wario, mae gennym rywfaint o help ar gael…

Ymgynghoriad Cynghorydd Digidol

Rydym yn annog busnesau sydd yn ystyried gwneud cais am arian i drawsnewid ei busnesau yn ddigidol i gysylltu gyda aron@m-sparc.com i drafod y syniad. Bydd modd i chi hefyd wedyn gael cyngor arbennig gan swyddog digidol Busnes Cymru a gall Aron eich cyflwyno i’r gwasanaeth yna am y cyngor gorau un.

Llwyddiannau Blaenorol

Helpodd ein Grant Twf Digidol 2024, a gefnogir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) Llywodraeth y DU, 10 busnes yn Ynys Môn i fuddsoddi mewn trawsnewid digidol – gan wella cysylltedd, buddsoddi mewn meddalwedd a thrawsnewid eu busnesau.

Gwybodaeth Pwysig

  • Y grant uchaf sydd ar gael ar gyfer prosiect yw £5,000.
  • Wrth hawlio’r grant, rhaid i chi ddarparu prawf o wariant. Mae hyn yn cynnwys pob anfoneb a derbynneb. Noder: ni fydd unrhyw wariant a wneir cyn i chi dderbyn a dychwelyd y cynnig grant ffurfiol yn gymwys.
  • Cofiwch – peidiwch â thalu am unrhyw feddalwedd, offer na gwasanaethau sy’n gysylltiedig â’r grant mewn arian parod.
  • Rhaid i M-SParc fod yn hyderus bod y grant wedi’i ddefnyddio fel yr amlinellwyd yn eich cais ac yn unol â thelerau ac amodau’r grant. Gall hyn gynnwys ymweliad â’ch busnes neu fath addas arall o wirio. Dim ond ar ôl i hyn gael ei gadarnhau y bydd arian yn cael ei ryddhau.
  • Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydi hanner nos ddydd Gwener, Awst 1af, 2025.

Unrhyw gwestiynau?

I drafod y Grant Digidol, ebostiwch Aron.

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.