M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Gweithdy Adeiladu Cyfrifiadur

Emily Roberts

Dydd Gwener diwethaf gafon ni Gweithdy Adeiladu Cyfrifiadur arbennig iawn yn M-SParc #ArYLon, Pwllheli. Mewn partneriaeth â North Wales Recycle IT, fe wnaethom drefnu arlwy ar gyfer grŵp o bobl ifanc o ddwy ysgol leol yn ein cymuned.

AILGYLCHU

Cafodd deg myfyriwr ffodus, pump o Ysgol Glan y Môr, a phump o Ysgol Uwchradd Botwnnog, gyfle unigryw. Cafodd y disgyblion blwyddyn 10 ac 11 gyfle i ddysgu am y broses gymhleth o adeiladu cyfrifiadur personol o’r gwaelod i fyny, ac ar ddiwedd y gweithdy, cawsant fynd â’u cyfrifiaduron personol newydd adref gyda nhw. Gwnaethpwyd hyn yn bosibl diolch i gyllid rhannol gan Adran Cenhadaeth Ddinesig Prifysgol Bangor, a’r cyfrifiaduron personol eu hunain a adeiladwyd gyda darnau wedi’u hailgylchu, y mae’r disgyblion bellach yn gwybod sut i adnewyddu eu hunain!

TACLO TLODI DIGIDOL

Roedd y gweithdy ei hun yn llwyddiant ysgubol, gyda rhai disgyblion yn datgelu nad oedd ganddynt fynediad at gyfrifiadur gartref, a fod hyn yn amharu ar eu gallu i gwblhau gwaith ysgol. O ystyried bod y rhan fwyaf o’r myfyrwyr hyn yn cychwyn ar eu blwyddyn olaf o astudiaethau TGAU, bu darparu’r cyfrifiaduron hyn heb unrhyw gost iddynt yn adnodd amhrisiadwy (yn llythrennol!), gan gynnig cefnogaeth sylweddol i’w hymdrechion academaidd. Dywedodd un “Does gen i ddim cyfrifiadur gartref, mae hyn wir yn mynd i fy helpu gyda fy ngwaith ysgol.”

SGILIAU DIGIDOL

Prif nod y gweithdy hwn oedd grymuso unigolion ifanc o gefndiroedd difreintiedig drwy eu harfogi â’r offer a’r wybodaeth i’w helpu yn y sector Digidol; maes sydd eisoes yn wynebu diffyg sgiliau yn y rhanbarth. Gobeithiwn y bydd y gweithdy hwn yn eu hannog i barhau i ddysgu ac i ddilyn gyrfa ym maes TG.

Yr hyn a’m trawodd fwyaf oedd pa mor ddiwyd yr oedd y bobl ifanc yn gweithio drwy’r dydd, yn gwrando ac yn dysgu, ac yn cymryd y cyfle o ddifri. Gwnaeth pa mor gyflym ddaru nhw ddysgu popeth argraff arnaf, a dangoson nhw wir ddawn i’r dasg! Gobeithiwn redeg rhywbeth tebyg yn y dyfodol, a dwi’n dymuno’n dda i’r disgyblion gyda’u sgiliau a’u hoffer newydd.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw