Cipiodd M-SParc wobrau di-ri yn y Gwobrau Busnesau Newydd Cenedlaethol neithiwr gyda 7 cwmni tenantiaid ar y rhestr fer a 5 gwobr yn dychwelyd i M-SParc. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddod ag arloeswyr o bob rhan o Gymru ynghyd i ysbrydoli, dathlu a chydweithio. Cyfarfu chwaraewyr allweddol o’r gogledd i’r de yn nigwyddiad rhwydweithio M-SParc i rannu syniadau a gyrru arloesedd yn ei flaen, a pharhaodd hyn yng Ngwobrau Cychwyn Busnes Cymru, lle enillodd tenantiaid M-SParc 5 gwobr yn ogystal â dychwelyd am prif wobr y noson – busnes newydd y flwyddyn – Haia Communications.
Wedi blino ar y rhethreg fod ‘dim byd yn digwydd yn y gogledd’, hen ddatganiad ffug sydd yn y pen draw yn gyrru’r goreuon o’r rhanbarth i chwilio am gyfleoedd sydd eisoes mewn gwirionedd yn bodoli gartref. M-SParc neithiwr oedd yn arwain y gad gan ddangos yn union beth sydd gan ogledd Cymru i’w gynnig. Mae llwyddiant y noson o ganlyniad i waith caled tîm ymroddedig sy’n canolbwyntio ddydd ar ôl dydd ar gefnogi twf ac arloesedd yng Nghymru.
Cyn Gwobrau Cychwyn Busnes Cymru, daeth M-SParc â sefydliadau a busnesau o bob rhan o Gymru ynghyd, gan ganolbwyntio ar arloeswyr gogledd Cymru, i ddechrau sgyrsiau a oedd yn hen bryd i’w cael. Eglurodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Pryderi ap Rhisiart:
Parhaodd Pryderi “Yn y pen draw, mae’n ymwneud a datblygu’r diwylliant hwnnw o gydweithio, a newid y meddylfryd fod arloesi yn rhywbeth sy’n digwydd yn rhywle arall, a’i droi i fewn i uchelgais y gall unrhyw un yng Nghymru lwyddo a mentro ei gael. Gall y daith fod yn un unig os ydych chi’n meddwl mai chi yw’r unig un sy’n ei chymryd, a mae neithiwr wedi profi nad yw hyn yn wir. Mae yna wlad gyfan ohonom! Sbarduno arloesedd yw sut y byddwn yn helpu cwmnïau i dyfu, aros yn y rhanbarth, a chreu cyfleoedd gyrfa sy’n talu’n dda.”
Roedd y prawf yn y seremoni wobrwyo, a fynychwyd gan gannoedd a chymhwyswyd ato gan filoedd o fusnesau newydd o Gymru. Ac felly i’r enillwyr a sêr y sioe:
Enillodd Carnedd, cwmni datblygu meddalwedd, technolegau newydd a datblygol – cwmni a gyflogodd ddau berson lleol newydd yn ddiweddar i yrru twf y cwmni. Dywedodd y sylfaenydd, Edd Aslin, “Rydym yn hynod falch o fod yn cyfrannu at sîn dechnolegol gynyddol yng ngogledd Cymru. Ein bwriad yw ailddiffinio beth mae’n ei olygu i fod yn dîm datblygu meddalwedd llwyddiannus.”
Cipiodd Explorage, y farchnad storio ar-lein, gyda’u tîm newydd o 6, y wobr Seren Newydd.
Enillodd Ceridwen Oncology, cwmni sy’n deillio o Brifysgol Bangor, sy’n canolbwyntio ar ymchwil canser prin, y wobr dechnoleg meddygol a iechyd. Enillodd Haia Communications y wobr Busnes Digidol a Chymru Gyfan, am eu platfform digwyddiadau ar-lein.
Dywedodd y cyd-sylfaenydd Tom Burke “Rydym yn hynod falch. Roedd yn gwbl annisgwyl ond mae’n gydnabyddiaeth wych am yr holl waith caled a wnaeth ein tîm i ddatblygu Haia. Rydyn ni eisiau dweud diolch i’n holl gefnogwyr, nid yw’n bosibl gwneud pethau fel hyn ar ben eich hun. I unrhyw un sy’n dechrau busnes yng ngogledd Cymru, ewch amdani, mae’r cymorth yma ac mae’n ddigyffelyb. Os oes gennych chi’r angerdd a’r awydd, byddwch chi’n ei gyflawni.”
Tra bod hyn i gyd yn digwydd yng Nghaerdydd, roedd Anna Burke, tenant M-SParc o Animated Technologies, yn Llundain yn ennill gwobr Menyw Busnes Arloesol mewn STEM.
Mae llwyddiant neithiwr yn destament i bobl sy’n arloesi, pobl sy’n meiddio breuddwydio ac sydd ddim yn derbyn bod yn rhaid iddyn nhw adael gogledd Cymru i wneud hyn. Dylai Cymru fod yn hynod falch o’r busnesau hyn.