Gŵyl Fwyd Egni 2025 – Dathliad o Fwyd a Diod Cynaliadwy

Roedd fwrlwm yn M-SParc heddiw (13/9/2025) wrth i ni groesawu ymwelwyr i ail Ŵyl Fwyd Egni, diwrnod o ddathlu arloesedd, cymuned a chynaliadwyedd yn y diwydiant bwyd a diod.

Tynnodd yr ŵyl sylw at gynnyrch lleol a Chymreig, gan annog busnesau i fabwysiadu arferion mwy cynaliadwy a chydweithio â’r sector twristiaeth. Mae ein hamcanion yn parhau’n glir:

  • Gwella mynediad ymwelwyr at fwyd a diod Cymru a’u hymwybyddiaeth ohonynt
  • Annog mwy o ffynonellau lleol
  • Dathlu cydweithio rhwng bwyd, diod a thwristiaeth
  • Tynnu sylw at bwysigrwydd cynhyrchion Dynodiad Daearyddol (GI)

Rhoddodd digwyddiad eleni gynaliadwyedd yn ganolog, gyda thrafodaethau ar gynhyrchu bwyd, rheoli gwastraff ac ailgylchu. Mwynhaodd ymwelwyr gynnyrch lleol blasus wrth ddysgu sut y gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i’n hamgylchedd.

Clywsom hefyd straeon ysbrydoledig gan fusnesau sy’n arwain y ffordd ym maes cynaliadwyedd:

  • Rhannodd Cafe Notos eu taith tuag at arferion mwy gwyrdd
  • Dangosodd Tyddyn Teg sut mae eu tanysgrifiadau bocs llysiau yn cefnogi pobl a’r blaned.
  • Siaradodd Ceri Lloyd, hyfforddwr iechyd ac awdur y llyfr coginio fegan cyntaf o Gymru, am goginio cynaliadwy a dewisiadau bwyd

Ar y safle, fe wnaethon ni gadw at ein hymrwymiad i ŵyl werdd: cwpanau y gellir eu hailddefnyddio, dim plastigau untro, a digon o gyfleoedd i ymwelwyr gyfrifo eu hôl troed carbon neu gymryd rhan mewn heriau ailgylchu hwyliog.

Cadwodd Sioned o dîm Sgil Sparc y plant yn brysur gyda gweithgareddau ymarferol, gan gynnwys peintio bagiau y gellir eu hailddefnyddio gyda gwastraff bwyd ac archwilio o ble mae bwyd yn dod a’i effaith ar y blaned.

Dathlu Arlosedd

Cyflwynwyd tair gwobr i stondinwyr rhagorol am eu hymdrechion cynaliadwyedd, pob un yn arddangos y creadigrwydd a’r penderfyniad sy’n gyrru busnesau Cymru ymlaen:

Gwobr Arlosedd – Bwblin
Diolch! Mae’n anrhydedd mawr i mi! Mae’n golygu cymaint i fusnes bach. Rwy’n ceisio gweithio gyda thyfwyr tymhorol a dathlu eu straeon, a busnesau lleol.

Anna, Bwblin

Mae Bwblin yn cyfuno eplesu organig, dim gwastraff â ffynonellau adfywiol lleol a model pecynnu dolen gaeedig. Mae eu heplesiadau cyfoethog mewn probiotigau yn cael eu tyfu’n lleol (lle bo modd), yn rhydd o blastig, yn rhydd o ychwanegion, ac wedi’u hardystio’n garbon niwtral ym Mhrydain. Maent yn mynd i’r afael â thri mater brys ar unwaith: problemau iechyd sy’n gysylltiedig â diet sy’n gysylltiedig â bwydydd wedi’u prosesu’n ormodol, effaith amgylcheddol cynhyrchu bwyd diwydiannol, a’r datgysylltiad rhwng defnyddwyr a bwyd lleol go iawn.

Gwobr Bwyd Cynaliadwy – Becws Glanrhyd
Roedd yn ddiwrnod gwych – gwych cael dilyniant o’r llynedd – cwrdd â phobl a busnesau newydd hefyd. Ac mae ennill gwobr yn eisin ar y gacen!

Mari, Becws Glanrhyd

Roedd eu cais am y wobr yn tynnu sylw at arferion cynaliadwyedd trawiadol dan arweiniad y gymuned, gan gynnwys:

  • Defnyddio cynhwysion dros ben o FareShare (pwmpen, lemwn, moron, ac ati) mewn cacennau a phobi
  • Trawsnewid bara dros ben yn bwdin bara a menyn
  • Rhewi bwyd dros ben i drigolion lleol ei brynu am gost isel trwy FareShare
  • Rhoi cacennau i ddigwyddiadau cymunedol fel sesiynau “paned a sgwrs”
  • Ailgylchu’r holl wastraff bwyd sy’n weddill, fel plisgyn wyau a chroen llysiau, trwy gompostio yng ngardd gymunedol y pentref
Gwobr Pecynau Cynaliadwy – Dots Allowed
Pan ddechreuon ni gyntaf yn 2022, daethom i weithdy yn M-SParc, a rwan dan wedi dod yn ôl i’r dechrau, ac wedi ennill gwobr! Mae cwrdd â phobl o’r un anian, fel yn y digwyddiad hwn, yn ddefnyddiol iawn, ac mae’n wych clywed sut mae busnesau eraill yn arloesi.

Amy, Dots Allowed

Myfyriodd Dr Debbie Jones, Rheolwr Arloesi Carbon Isel yn M-SParc, ar y diwrnod: “Mae’n wych cynnal ail Ŵyl Fwyd Egni yma yn M-SParc. Roedd ffocws eleni ar gynnyrch lleol, a phwysigrwydd cynhyrchion Dangosyddion Daearyddol. Mae’n wych gweld cymaint o fusnesau lleol yn arloesi ac yn bod yn gynaliadwy gyda’u cynhyrchion. Roedd y nifer a ddaeth yn wych, roedd y lle’n fywiog. Diolch i Molly a gweddill tîm M-SParc am eu gwaith caled!”

Ychwanegodd Molly Jackson, Swyddog Cymorth Carbon Isel yn M-SParc: “Am ddiwrnod gwych – nifer wych a ddaeth yno, bwyd gwych, syniadau arloesol, ac enillwyr gwobrau gwirioneddol haeddiannol. Diolch i’r holl siaradwyr, gwerthwyr a’r rhai a gymerodd ran. Rydym eisoes yn edrych ymlaen at yr un peth eto’r flwyddyn nesaf!”

Os hoffech chi gymryd rhan yng Ngŵyl Fwyd Egni, cysylltwch â Molly.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.