Mae Gŵyl Fwyd Egni yn ddathliad o fwyd a diod Cymreig, busnesau lleol a chynaliadwyedd, gyda rhywbeth i bawb ei fwynhau. Treuliwch y diwrnod yn archwilio stondinau cynhyrchwyr lleol, yn darganfod blasau newydd, yn cwrdd â’r bobl y tu ôl i’r cynnyrch ac yn mwynhau rhaglen o weithgareddau ac adloniant drwy gydol y dydd.
Darganfyddwch amrywiaeth wych o fwyd a diod Cymreig gan gynhyrchwyr a busnesau lleol. O gynhyrchion crefftus a danteithion melys i fwyd stryd blasus, bydd digonedd i’w weld, ei flasu a mynd ag ef adref. Mae hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â’r gwneuthurwyr, clywed eu straeon a dysgu mwy am y daith o’r cynhyrchydd i’r plât.
Clywch gan fusnesau, sefydliadau ac arbenigwyr yn y diwydiant am fwyd, cynaliadwyedd a dyfodol diwydiant bwyd a diod Cymru. O gynhyrchwyr lleol a chynhyrchion â Dynodiad Daearyddol i arferion cynaliadwy a chymorth i fusnesau, bydd digon o syniadau a mewnwelediadau i fynd gyda chi.
Dysgwch am wyddoniaeth mewn ffordd ymarferol drwy weithgareddau STEM hwyliog sy’n ymwneud â bwyd! Gall plant wneud hufen iâ gan ddefnyddio gwyddoniaeth, arbrofi gyda gwahanol flasau a chynhwysion, a gweld sut y gellir defnyddio gwyddoniaeth i greu rhywbeth blasus!
Rhowch eich gwybodaeth ar brawf gydag amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol drwy gydol yr ŵyl. Cyfrifwch eich ôl-troed carbon, cymerwch ran mewn heriau ailgylchu hwyliog a darganfyddwch sut y gall y bwyd rydyn ni’n ei fwyta effeithio ar yr amgylchedd. Bydd digon o gyfleoedd i gymryd rhan a dysgu rhywbeth newydd.
Bydd digon o adloniant drwy gydol y dydd, gyda cherddoriaeth fyw, arddangosiadau coginio a gweithgareddau i’r teulu cyfan. Gwyliwch arddangosiad coginio gan Y Marram a gwelwch sut y gellir trawsnewid cynhwysion lleol yn brydau blasus, mwynhewch berfformiad byw gan ein cantores, a dathlwch y busnesau gwych sy’n cymryd rhan yng Ngwobrau Egni. Gyda digonedd i’w weld, i’w flasu ac i’w fwynhau, mae rhywbeth i bawb drwy gydol y dydd.





























Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r ŵyl wedi croesawu ystod eang o gynhyrchwyr bwyd a diod o bob cwr o Ogledd Cymru a thu hwnt, gan greu diwrnod bywiog i ymwelwyr ddarganfod, blasu a chysylltu.
Mae ein gŵyl yn dod â chynhyrchwyr crefftus, gwerthwyr bwyd, tyfwyr lleol, a busnesau bwyd arloesol ynghyd, i gyd yn arddangos ansawdd ac amrywiaeth bwyd a diod Cymru. Mae gan ymwelwyr gyfle i gwrdd â’r gwneuthurwyr, rhoi cynnig ar flasau newydd, a dysgu mwy am sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu’n gynaliadwy.
Ochr yn ochr â’r stondinau bwyd, mae’r ŵyl yn cynnwys gweithgareddau a sgyrsiau ynghylch cynaliadwyedd a dyfodol bwyd.
Ystod eang o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru
Bwyd blasus a chynhyrchion crefftus
Cyfleoedd i gwrdd â gwneuthurwyr a chynhyrchwyr lleol
Gweithgareddau cynaliadwyedd rhyngweithiol
Awyrgylch cymunedol croesawgar yn M-SParc
Mae parcio ar gael, ond yn gyfyngedig. Rydym yn argymell rhannu car neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os gallwch.
Yr orsaf drenau agosaf yw Llanfairpwll (2.4 milltir i ffwrdd).
Mae’r safle bws agosaf ger Stermat, ac mae’n 5 munud ar droed o M-SParc.
Mae bws 4A o Fangor yn dod bob awr.
Mae M-SParc 6.6 milltir o Fangor. Os ydych yn beicio, byddem yn argymell cymryd llwybr yr A5. Mae standiau beiciau gwarchod.
Mae M-SParc oddi ar Gyffordd 7 ar yr A55.
Mae pwyntiau gwefru ar gael ar gyfer cerbydau trydan.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.