Hacathon Data Pêl-droed yn Darparu Hwb o £50,000

Mae M-SParc wedi cwblhau ei Hacathon Pêl-droed, menter genedlaethol sy'n archwilio sut y gall technoleg fesur cyfranogiad mewn pêl-droed ar lawr gwlad yn well ledled Cymru.

Wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â Sefydliad Pêl-droed Cymru (CFF) a Chymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW), nod y prosiect oedd ateb cwestiwn syml ond pwysig: pwy sy’n defnyddio caeau cymunedol newydd mewn gwirionedd—a pha effaith maen nhw’n ei chael?

Chwith i Dde: Jordan Lee Eardley, Steven Parkes, gyda Rhiannon Owen, Shannon Jones a Peter Butcher (Chwarae Teg)

Cymerodd chwe thîm o bob cwr o Gymru ran, gan gyfuno arbenigedd technegol ag angerdd dros y gêm. Y nod oedd datblygu ffyrdd ymarferol, hawdd eu defnyddio i glybiau a chyllidwyr gasglu data cyfranogiad dibynadwy—heb ychwanegu gwaith gweinyddol nac ymdrech ychwanegol i chwaraewyr.

Gyda chefnogaeth gan fentoriaid yn y diwydiant, mireiniodd timau eu syniadau a’u cyflwyniadau cyn cyflwyno i banel beirniadu a oedd yn cynnwys Emily Roberts a Jordan Lee Eardley o M-SParc, Steven Parkes, Rheolwr Prosiect Arloesi dan Arweiniad Heriau Llywodraeth Cymru, ac Aled Lewis, Pennaeth Gweithrediadau yn y CFF.

Cyrhaeddodd pedwar tîm y rownd derfynol ym mis Ionawr 2026, gan gyflwyno atebion a gafodd eu barnu ar raddfaadwyedd, hygrededd, a chyflawniad cyffredinol.

Chwarae Teg enillodd y wobr beilot (£5,000) gyda system olrhain oddefol gan ddefnyddio technoleg RFID a LoRaWAN. Nid oes angen unrhyw fewnbwn gan chwaraewyr ar gyfer eu dull—gan greu ffordd ddi-dor o gasglu data cyfranogiad. Bydd y tîm nawr yn symud i beilot byw gydag M-SParc.

Yn y cyfamser, sicrhaodd ap PASS Brandified, tenant M-SParc, £35,000 mewn buddsoddiad strategol. Er nad oedd yn ateb caledwedd, dangosodd yr ap botensial cryf ar lefel genedlaethol, gyda chynlluniau i adeiladu seilwaith diogel ar gyfer casglu a rheoli data cyfranogiad ledled Cymru.

Neil Thomas, Brandified

Tynnodd y prosiect sylw at rôl M-SParc fel mwy na dim ond gweithle. Drwy gydol y rhaglen, derbyniodd timau gefnogaeth ymarferol—o farchnata a recriwtio i fentora technegol a chyfleusterau creu prototeipiau—gan helpu i droi syniadau cynnar yn atebion hyfyw.

Fel y dywedodd Jordan Lee Eardley, Swyddog Arloesi Digidol yn M-SParc:

Trwy’r hacathon hwn, rydym wedi profi bod gan Gymru’r dalent i drawsnewid y gêm ar lawr gwlad. Mae datrysiadau Chwarae Teg a Brandified yn dangos sut y gall technoleg glyfar ddarparu’r tystiolaeth sydd ei angen i barhau i fuddsoddi yn iechyd ein cymunedau.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.