Mae Hac Iechyd Cymru yn dychwelyd yn 2022 am y nawfed tro i gefnogi arloeswyr a chlinigwyr Cymru i ddatblygu atebion i bweru’r GIG i adferiad Covid-19.
Yn cael ei gynnal dros ddwy sesiwn ar Chwefror 16eg a Dydd Gŵyl Dewi, y digwyddiad yw’r diweddaraf mewn cyfres o haciau iechyd sydd wedi gweld rhai o arloeswyr gorau y genedl yn sicrhau cyllid cychwynnol i ddatblygu atebion sy’n cefnogi’r sector iechyd yng Nghymru a darparu buddion bywyd go iawn i gleifion a chlinigwyr.
Pwrpas yr Hac yw annog cydweithio a thynnu sylw at syniadau arloesol, gan roi sylw i arbenigwyr a mynediad at adnoddau sy’n aml yn anodd eu canfod. Thema Hac eleni yw cynorthwyo Ailosod ac Adfer Covid-19 GIG Cymru, ac mae’r trefnwyr yn gwahodd clinigwyr a gweithwyr proffesiynol i gyflwyno eu heriau er mwyn i unigolion gyflwyno eu datrysiadau arloesol.
Gwahoddir gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol i rannu eu heriau cyn cael eu harwain i gydweithio ag arloeswyr a datblygu datrysiad, a gyflwynir i banel yn y gobaith o sicrhau cyllid cychwynnol.
Mae gan y digwyddiad hanes profedig o ddenu ystod o weithwyr proffesiynol dawnus o bob rhan o’r diwydiant ac iechyd a gofal cymdeithasol i gystadlu am gyllid, gydag enillwyr blaenorol wedi cyflwyno prosiectau sydd wedi’u rhoi ar waith mewn amrywiol Fyrddau Iechyd ledled Cymru.
Dywedodd Rheolwr Cyfarwyddwr M-SParc, Pryderi ap Rhisiart:
Mae Hac Iechyd Cymru yn ddigwyddiad anhygoel ac yn arddangosiad o atebion arloesol i heriau’r byd go iawn a all wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gleifion a chlinigwyr yn ein sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Drwy ddod â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol o bob rhan o Gymru ynghyd â’r rhai sy’n datrys problemau i gydweithio ac arloesi wrth fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn a fydd yn gwella iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae’n ddigwyddiad ysbrydoledig iawn ac rydym yn falch o fod yn chwarae ein rhan wrth wneud iddo ddigwydd.”
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Mae ein cydweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn parhau i fynd gam ymhellach yn eu hymateb i Covid-19. Rydym hefyd yn cydnabod bod arloesi wedi bod yn hollbwysig wrth ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymateb i’r pandemig, sydd wedi darparu heriau newydd yn ogystal â chyfleoedd newydd i ddysgu a gweithio’n wahanol.
Yn rhan allweddol o dirwedd arloesi Iechyd a Gofal Cymru, mae Hac Iechyd Cymru yn parhau i fod yn blatfform sy’n ysgogi ac yn cefnogi arloesedd trwy ddod â staff ymroddedig GIG Cymru ynghyd â phrifysgolion a phartneriaid diwydiant i ddatblygu datrysiadau technolegol newydd.
Bydd yr atebion a ddatblygwyd gan Hac Iechyd Cymru 2022 yn ein helpu ymhellach ar ein llwybr at adferiad Covid-19 trwy ddatrys heriau iechyd y byd go iawn a gynigir gan ein clinigwyr ac ymarferwyr iechyd yng Nghymru.”
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:
Mae gan arloesi ran hanfodol i’w chwarae wrth gefnogi llesiant pobl, gan gynnwys cenedlaethau’r dyfodol. Yn ystod pandemig Covid, gwelais drosof fy hun faint o gwmnïau o Gymru a gamodd ymlaen gyda chynhyrchion newydd arloesol a helpodd y GIG i ddarparu gofal a thriniaethau achub bywyd i bobl ledled y wlad.
Mae’r Hac Iechyd yn creu’r amodau sydd eu hangen ar gyfer datblygu syniadau ac atebion newydd, gan ein galluogi i barhau i gefnogi cyfres o gynhyrchion, gwasanaethau a ffyrdd newydd o weithio a fydd yn sicrhau buddion bywyd go iawn yng Nghymru drwy gydol ein hadferiad o Covid-19 a thu hwnt.