Arloesi Pêl-droed

Y PROBLEM CRAIDD

Nid oes gan glybiau’r gallu i fesur a deall cyfranogiad. Pwy sy’n mynychu’r hyfforddiant? Pa ddemograffeg sy’n cymryd rhan (oed, rhyw, cefndir)? Ydyn nhw’n dychwelyd o wythnos i wythnos neu’n rhoi’r gorau iddi? Pa mor fodlon ydyn nhw gyda’u profiad?

Y Digwyddiad

Mae diffyg gallu gan glybiau i fesur a deall cyfranogiad. Pwy sy’n mynychu’r sesiynau hyfforddi? Pa ddemograffeg sy’n cymryd rhan (oed, rhyw, cefndir)? Ydyn nhw’n dychwelyd o wythnos i wythnos, neu’n gadael? Pa mor fodlon ydyn nhw â’u profiad?

Bydd timau’n datblygu datrysiadau arloesol ac ymarferol sy’n helpu clybiau i gasglu, delweddu, a gweithredu ar ddata cyfranogi. Drwy gydol y cyfnod hyfforddi, byddwch yn derbyn mentora gan dîm Digidol M-SParc, mynediad at arbenigwyr yn y diwydiant, a sesiynau cymorth ar gynllunio busnes, cyllid, a chyflwyno syniadau.

Rydym yn chwilio am ddatrysiadau sy’n gallu trawsnewid sut mae clybiau/ardaloedd yn casglu ac yn defnyddio mewnwelediadau am gyfranogiad, tra hefyd yn raddadwy, yn foesegol, ac yn hyfyw fel busnesau go iawn.

Sut fydd eich cyflwyniad yn cael ei sgorio?

sgoriau

Pwy sydd y tu ôl i'r hac?

Mae’r hacathon yn gydweithrediad rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW), Llywodraeth Cymru, ac M-SParc. Gyda’n gilydd, rydym yn cyfuno chwaraeon, technoleg, ac arloesi i gryfhau pêl-droed Cymru o’r lefel llawr gwlad i fyny. M-SParc sy’n arwain ar y gwaith o gyflawni a mentora, gyda’r FAW a Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth strategol a chyllid.

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.