M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Hac y Gymraeg

Digwyddiad i ysbrydoli a buddsoddi mewn arloesedd mewn technoleg iaith!

Ar-lein

Digwyddiad ar-lein

08 Chwefror, 2022

Am ddim

Am y digwyddiad hwn

Beth?

Mae M-SParc a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i gynnal ail Hac Y Gymraeg. Y tro hwn, dy her yw i gynyddu’r defnydd bob dydd o’r Gymraeg mewn ffordd hygyrch! Mae mynediad at fuddsoddiad o gronfa £50,000 o bunnoedd ar gael i’r syniadau buddugol.

Yr Her

Ar hyn o bryd, mae’n debygol y bydd dwsinau o syniadau arloesol yn barod i’w datblygu, ond nad oes gan unigolion neu fusnesau yr arian i wireddu hynny. Dyna le mae’r Hac Iaith yn dod mewn!

Yn benodol byddwn yn ffocysu ar helpu gwneud y Gymraeg yn hygyrch. Oes gennych chi syniad sy’n galluogi pobl i gael gwell mynediad i’r Gymraeg bob dydd neu’n cefnogi dysgwyr ac yn caniatáu iddynt ymarfer eu Cymraeg?

Mae’r Gymraeg i bawb; oes gen ti syniad all helpu cefnogi’r iaith?

Sut bydd hi’n gweithio?

Dyma gyfle arbennig iti adael i ni wybod am dy syniad. Bydd yn cael ei fesur yn erbyn sawl ffactor, cyn ei gymeradwy i ti pitsio i banel yr Hac:

  • Ydy o yn helpu gynyddu’r defnydd bob dydd o’r Gymraeg? (Yn eu nadu o’r angen i newid i iaith arall wrth ddefnyddio technoleg, er enghraifft)?
  • A yw hwn yn syniad newydd, nad yw’n bodoli ac nad yw’n debyg i syniadau eraill sy’n cael eu treialu?

Cer i’r dudalen hon am ragor o fanylion ac i rannu dy syniad. Mae’n syniad da iti roi ‘bookmark’ i’r dudalen, lle bydd gwybodaeth yn cael ei hychwanegu.

I orffen:

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad ar y 15fed o Chwefror. Croeso i ti ddod i wylio hyd yn oed os nad wyt ti am pitsio y tro hyn. Yn y digwyddiad ar-lein hwn byddwn yn gofyn i bobl gynnig atebion i’r her. Mae terfyn ar yr amser sydd ar gael, felly byddwn ni’n dewis pwy sy’n pitsio.

Bydd panel o feirniaid yn dewis y syniadau buddugol. A bydd y buddugwyr yn cael buddsoddiad i ddod â’u syniad yn fyw.

Pryderi ap Rhisiart, llun proffil mewn ystafell cyfarfod

Archebwch eich tocynnau

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw