Beth?
Mae M-SParc a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i gynnal y trydydd Hac Iaith Gymraeg. Mae mynediad at fuddsoddiad o gronfa o £24,000 ar gael i’r syniadau buddugol.
Yr Her
Cyfle cyffrous i arloeswyr a rheini sy’n frwdfrydig am dechnoleg gyfrannu at y defnydd o’r Gymraeg, yn enwedig mewn gofodau digidol.
Rydym am i chi dreialu datrysiadau digidol sy’n cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn amgylcheddau digidol, cefnogi ac annog dysgwyr, a chaniatáu i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
Cefnogwch ni ar y ffordd i filiwn o siaradwyr Cymraeg!
Sut bydd o’n gweithio?
‘Da ni’n deall na fydd hyn yn ddigon i wneud cynnyrch newydd sy’n gweithredu’n llawn, ond gallai fod yn ddigon i:
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Darllenwch y dudalen hon yn ofalus, gwyliwch y fideo isod o’n digwyddiad lansio ar yr 22ain o Chwefror am fwy o wybodaeth, a llenwch y ffurflen Google isod cyn hanner nos ar yr 28ain o Chwefror.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â Tom.
Be nesa?
Unwaith y byddwch chi wedi cyflwyno cais, byddwch chi’n dod i wybod os ydych chi drwodd i’r rownd pitsio! Mae hyn yn digwydd ar Fawrth y 1af, a byddwch yn cyflwyno’n fyw i gynulleidfa a phanel o feirniaid. Byddwn yn cyhoeddi’r enillydd(wyr) yn fyw ar y diwrnod!
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.