Wyth Wythnos yn M-SParc: Haf o Gyfleoedd

Haf yma, croesawodd M-SParc Catrin a Llio i'r tîm fel Interniaid Cymorth Busnes, gan roi'r cyfle iddynt ennill profiad proffesiynol wrth weithio ochr yn ochr â busnesau Cymru, M-SParc a Busnes Cymru.

I’r ddwy, roedd yr interniaeth yn cynnig rhywbeth nad oeddent o reidrwydd yn ei ddisgwyl: y cyfle i ddarganfod faint o gyfleoedd sydd ar gael ar garreg eu drws yng Ngogledd Cymru.

O’r brifysgol i’r gweithle

I Llio, daeth dychwelyd adref i Ogledd Cymru ar ôl blwyddyn yn astudio yn Lisbon gyda rhywfaint o ansicrwydd ynghylch beth fyddai’r haf yn ei gynnig.

“Yn wahanol i lawer o fy ffrindiau, a oedd yn dychwelyd i ddinasoedd fel Llundain, Caerdydd, Frankfurt neu Boston, roeddwn i’n dychwelyd adref i Ogledd Cymru, sydd, gallech chi ddweud, ddim mor adnabyddus am gyfleoedd profiad gwaith.”

Roedd hi wedi disgwyl haf arall yn gweithio ym maes lletygarwch cyn dychwelyd i Fryste am ei blwyddyn olaf yn astudio Economeg. Yn lle hynny, daeth o hyd i Interniaeth Cymorth Busnes wyth wythnos yn M-SParc.

Roedd Catrin hefyd yn chwilio am rywbeth a fyddai’n rhoi profiad proffesiynol gwerthfawr iddi ar ôl gorffen ei blwyddyn olaf yn y brifysgol. Ar ôl treulio hafau blaenorol yn gweithio ym maes lletygarwch, roedd hi eisiau cyfle a fyddai’n fuddiol i’w gyrfa yn y dyfodol.

“Wnaeth fy chwaer yrru’r interniaeth draw, a wnes i feddwl, mae hyn yn berffaith!”

Ar eu diwrnod cyntaf, cyfarfu’r ddau intern â’i gilydd a chawsant eu cyflwyno i dimau M-SParc a Busnes Cymru, cyn dechrau ar raglen wyth wythnos a oedd yn cwmpasu ystod syndod o eang o waith.

Gweld sut mae busnesau’n cael eu cefnogi

Un o’u profiadau cyntaf oedd cysgodi gwahanol dimau Busnes Cymru, gan gynnwys y timau Deallusrwydd Artiffisial, Datgarboneiddio, Digidol a Mentora.

Rhoddodd hyn gipolwg iddynt ar yr ystod o gymorth sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, o gyngor arbenigol i gyllid a datblygu busnes.

“Roedd o’n ddiddorol gweld faint o wahanol feysydd y gall busnesau dderbyn cymorth ynddynt,” meddai Catrin, “a pha mor bwysig ydi’r gefnogaeth yma wrth ddatblygu busnes.”

I Llio, rhoddodd y profiad gyfle hefyd i weld sut y gall busnesau ddefnyddio technoleg newydd yn ymarferol. Daeth deallusrwydd artiffisial yn thema gyffredin drwy gydol ei interniaeth, yn enwedig drwy weithio ochr yn ochr â Chynghorwyr deallusrwydd artiffisial Busnes Cymru.

Dysgodd sut y gall busnesau bach a chanolig fabwysiadu deallusrwydd artiffisial yn ddiogel ac yn gyfrifol i wella cynhyrchiant a lleddfu llwythi gwaith, gwybodaeth y mae’n disgwyl ei chymryd gyda hi yn ei blwyddyn olaf yn y brifysgol a thu hwnt.

O Dragons’ Den i syniadau busnes eu hunan

Rhoddwyd cyfle hefyd i’r interniaid weithio ar eu prosiectau eu hunain a chymryd rhan mewn penderfyniadau busnes go iawn.

Un o’u prosiectau mwyaf oedd datblygu cynnig ar gyfer pecyn STEM newydd y gallai M-SParc ei werthu o bosibl.

Roedd y prosiect yn cynnwys ymchwilio i’r farchnad, datblygu model ariannol, nodi cyflenwyr a logisteg, creu cynllun marchnata a dadansoddi galw posibl. Yna cyflwynon nhw eu cynnig i dîm M-SParc.

I Llio, daeth yn un o uchafbwyntiau’r interniaeth.

“Roedd o’n ddarn o waith mor amrywiol, a gafodd adborth gwych yn y diwedd, a dwi’n gobeithio’n fawr y byddaf yn gweld y gwaith yn parhau, ac efallai’n cael ei weld yn Clwb Sparci un diwrnod.”

Cawsant gyfle hefyd i eistedd i mewn ar gyflwyniadau buddsoddi, gan wylio busnesau’n cyflwyno eu syniadau i fuddsoddwyr Angel M-SParc.

“Roedd o fel Dragons’ Den go iawn,” meddai Llio.

Rhoddodd y profiad gipolwg iddynt ar sut mae entrepreneuriaid yn cyfleu eu syniadau, yn ymateb i gwestiynau heriol ac yn dangos potensial eu busnesau i fuddsoddwyr.

Fe wnaethon nhw hefyd helpu i adolygu ceisiadau ar gyfer Haf Mentrus, rhaglen a ariennir yn llawn gan M-SParc sy’n cefnogi pobl ifanc wrth iddyn nhw ddatblygu eu syniadau busnes eu hunain, cyn cwrdd â’r ymgeiswyr llwyddiannus yn ystod eu hamser yn Ar Y Lôn ym Mangor.

Mynd allan i fewn i’r gymuned

Roedd eu gwaith ddim yn gyfyngedig i swyddfa M-SParc.

Yn Ar Y Lôn ym Mangor, fe wnaethon nhw ymchwilio i sut mae’r gofod yn cael ei ddefnyddio a sut y gellid ei ddatblygu ymhellach. Fe wnaethon nhw adolygu data marchnata a digwyddiadau, dadansoddi nifer yr ymwelwyr a gwybodaeth Eventbrite, cyfweld â staff a defnyddwyr lleol, a chymryd rhan mewn gweithgareddau gan gynnwys gweithdai STEM a Caffi Trwsio.

I Catrin, roedd siarad yn uniongyrchol â phobl sy’n defnyddio’r gofod yn rhan arbennig o werthfawr o’r profiad.

“Rhoddodd hyn y cyfle inni gamu y tu allan i amgylchedd y swyddfa a siarad yn uniongyrchol â phobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth, rhywbeth wnes i fwynhau.”

Disgrifiodd Llio Ar Y Lôn fel gofod cymunedol gwych, gan roi cyfle iddyn nhw weld effaith gwaith M-SParc ar y stryd fawr, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer uwchsgilio a chydweithio.

Profiad o’r gymuned fusnes ehangach

Dros yr wyth wythnos, mynychodd yr interniaid ddigwyddiadau a chynadleddau hefyd, gan gynrychioli M-SParc mewn digwyddiadau gan gynnwys Cynhadledd FSB Cymru a Chynhadledd AI yn Aberystwyth.

Roedd y profiadau hyn yn caniatáu iddynt gwrdd â phobl o wahanol fusnesau a sefydliadau, adeiladu eu rhwydweithiau proffesiynol a gweld sut roedd y syniadau yr oeddent yn gweithio arnynt yn ffitio i’r gymuned fusnes ehangach yng Nghymru.

I Catrin, helpodd y profiad hi i ddeall sut y gellir rhoi’r wybodaeth a gafwyd drwy’r brifysgol ar waith mewn amgylchedd proffesiynol.

“Dwi’n teimlo fy mod wedi ennill mwy na dim ond profiad i’w ychwanegu at fy CV. Dwi wedi datblygu fy hyder, wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, wedi ennill dealltwriaeth o sut mae sefydliadau’n gweithio, ac wedi cael y cyfle i weld sut y gellir datblygu syniadau’n brosiectau go iawn.”
Wyth wythnos wedyn

Wrth i’w interniaeth ddod i ben, mae Catrin a Llio yn mynd â mwy na phrofiad proffesiynol i ffwrdd.

I Llio, mae’r profiad wedi newid ei chanfyddiad o’r cyfleoedd sydd ar gael yng Ngogledd Cymru.

“O weithio yma, dw i wedi dod yn ymwybodol o’r gwaith anhygoel mae M-SParc yn ei wneud i’r gymuned, busnesau lleol a phobl ifanc, ac wedi dysgu bod llawer mwy o gyfleoedd yn nes at adref nag oeddwn i’n ei dybio.”

Mae Catrin yn gadael gyda mwy o hyder, sgiliau newydd a gwell dealltwriaeth o sut y gall ei phrofiad prifysgol droi’n ymarferol yn y gweithle.

“Yn bwysicaf oll, dw i wedi cael y cyfle i brofi amgylchedd proffesiynol y tu allan i’r brifysgol a deall sut y gellir defnyddio’r wybodaeth dw i wedi’i hennill drwy gydol fy ngradd yn y byd go iawn.”

A chyn iddyn nhw orffen, roedd un peth cyntaf olaf i’r ddau intern: recordio podlediad gyda Rheolwr Sgiliau ac Ymgysylltu M-SParc, Emily.

Rhoddodd y podlediad gyfle iddyn nhw fyfyrio ar y profiad, y prosiectau roedden nhw wedi gweithio arnyn nhw a’r hyn roedden nhw wedi’i ddysgu yn ystod eu wyth wythnos.

I Llio, roedd yn ffordd ddelfrydol o ddod ag interniaeth mor brysur i ben.

“Roedd yn rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi’i wneud o’r blaen, ac yn onest, yn ffordd ddelfrydol o gloi wyth wythnos a phrosesu popeth roedden ni wedi’i ddysgu’n iawn.”

Wrth iddyn nhw anelu at eu penodau nesaf, mae’r ddau intern yn gadael gyda sgiliau newydd, cysylltiadau newydd a syniad llawer cliriach o sut olwg all fod ar yrfa y tu hwnt i’r brifysgol.

I Catrin, mae hynny’n golygu teithio ym mis Ionawr gyda’r sicrwydd ei bod wedi ennill profiad gwerthfawr cyn mynd ar ei ffordd.

I Llio, mae’n golygu dychwelyd i Fryste am ei blwyddyn olaf gyda gwerthfawrogiad newydd o’r hyn sy’n digwydd yn llawer agosach at adref.

Ac i M-SParc, mae’n golygu ffarwelio â dwy intern sydd wedi treulio wyth wythnos yn mynd ati, yn gofyn cwestiynau ac yn cyfrannu syniadau eu hunain.c

Diolch Llio a Catrin, a phob lwc a phob hwyl ar gyfer y dyfodol.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.