Cafodd Inyanga gytundeb ar gyfer y prosiect ynni ffrwd llanw 10 MW ym Morlais drwy rownd dyraniad ‘Contracts for Difference’ Llywodraeth y DU. Morlais yw cynllun ynni llanw mwyaf y DU ac un o’r rhai mwyaf yn Ewrop. Mae Morlais yn cael ei reoli gan y fenter gymdeithasol Menter Môn.
Bydd y swyddfa yn cael ei harwain gan y Rheolwr Masnachol Osian Roberts, a gafodd ei eni a’i fagu ar Ynys Môn ac sydd â phrofiad rhyngwladol sylweddol yn y sector ynni adnewyddadwy ar y môr. Bydd Osian yn arwain y tîm a leolir yn M-SParc, gan greu cyflogaeth newydd sylweddol yn y rhanbarth.
Ein gweledigaeth yw i ddod yn arweinydd byd mewn technoleg arae llanw. Bydd ein prosiect ym Morlais yn gam allweddol ar y daith hon, ac mae agor y swyddfa newydd yma yng Nghymru yn garreg filltir bwysig i ni.
Hyd yn hyn mae masnacheiddio ynni’r llanw wedi’i atal gan gostau gweithredu a chynnal a chadw uchel. Mae ein technoleg HydroWing yn ateb yr her honno yn uniongyrchol. Credwn bydd o’n helpu i arwain y ffordd tuag at cyfleoedd masnachol ymarferfol ynni’r llanw ledled y byd, drwy gynnig ffynhonnell ynni adnewyddadwy cost isel a dibynadwy am flynyddoedd i ddod.
Richard Parkinson, Inyanga Marine Energy Group CEO
Mae technoleg HydroWing yn seiliedig ar ddyluniad modiwlaidd patent unigryw sy’n gwella cost-effeithlonrwydd a chynhyrchiant ynni llif llanw yn ddramatig.
Mae ynni’r llanw yn rhan hanfodol o’r cymysgedd i gyflawni targedau sero net yn fyd-eang. Mae gan y tîm yn Inyanga Marine Energy Group brofiad heb ei ail yn y sector, ar ôl bod yn gyfrifol am mwy na hanner yr holl ddyfeisiau ynni llif llanw ledled y byd. Felly mae’n wych gweld eu gwybodaeth a’u profiad aruthrol yn llywio’r strategaeth dylunio a defnyddio ar gyfer HydroWing, sef technoleg sy’n helpu i gyflwyno arloesedd yn y sector.
Simon Cheeseman, Arweinydd Sector ar Ynni Tonnau a Llanw yn y Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr
Rydym yn gyffrous i groesawu Inyanga Marine Energy Group i M-SParc, cwmni arloesol a fydd yn dod â budd gwirioneddol i economi Cymru. Mae cytundeb Llywodraeth y DU ar gyfer eu prosiect ffrwd llanw ym Morlais yn newyddion gwych i Gymru, a bydd bendant yn cryfhau’r sector ynni adnewyddadwy alltraeth sy’n tyfu’n gyflym yn y rhanbarth, gan arwain at swyddi a chyfleoedd newydd – rhywbeth ‘da ni’n angerddol i gefnogi. Gyda’n cysylltiadau cryf ag adran Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, ‘da ni’n gobeithio darparu cysylltiadau i gydweithio ymhellach.
Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Cyfarwyddwr M-SParc
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.