Mae rhan IONA Mineral ag AgTechUCD yn dilyn ymweliad Taith Fasnach lwyddiannus ag Iwerddon yn gynharach yn y flwyddyn, a drefnwyd gan M-SParc a’i ariannwyd gan gynllun Agile Cymru Llywodraeth Cymru. Cymerodd cynrychiolwyr o Glwstwr AgriTech M-SParc ran yn yr ymweliad trawsffiniol hwn i gryfhau’r cydweithio rhwng Cymru ac Iwerddon yn y sectorau technoleg ac amaethyddiaeth.
Mae rhaglen AgTech UCD wedi’i theilwra i gyflymu busnesau newydd cam cynnar mewn amaethyddiaeth a thechnoleg bwyd. Mae IONA Minerals, sy’n canolbwyntio ar ddosbarthu mwynau sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol, yn un o ddim ond saith o fusnesau newydd a ddewiswyd ar gyfer rhaglen ddwys 12 wythnos eleni, gan bwysleisio atebion cynaliadwy ar draws tir, dŵr ac aer. Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, mae wedi’i gynllunio i helpu busnesau newydd addawol fel IONA Minerals i gynyddu a thyfu.
Mae datblygu’r sector AgriTech yng Nghymru wedi bod yn ffocws i M-SParc ac mae Iona Minerals yn enghraifft wych o’r math o arloesedd sy’n cael ei ddatblygu gan aelodau ei grŵp clwstwr agritech.cymru.
Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr, M-SParc
Mae’n amser gwych i ddatblygu busnesau yn y sector Technoleg Amaeth, gyda chyflymwyr fel Lefel Nesaf M-SParc a chymorth ar gael ar hyn o bryd gan UKRI a SBRI. Mae rhaglen Launchpad UKRI ar gyfer Canolbarth a Gogledd Cymru yn weithredol ac yn werth £1.5m ac mae hyn yn ychwanegol at “Gronfa Her Technoleg Bwyd-Amaeth” SBRI sy’n werth £500,000. Anogir sefydliadau sydd â diddordeb mewn sicrhau’r cyllid hwn i ymgysylltu ag M-SParc a’r arweinydd ar AgriTech, Tom Burke wrth ebostio tom@m-sparc.com.
Tynnodd Gary Ryan, Cyfarwyddwr AgTechUCD, sylw at ymrwymiad y rhaglen i arwain busnesau newydd i fireinio eu cynaliadwyedd, effeithlonrwydd a phroffidioldeb.
Gary Ryan, Cyfarwyddwr, AgTechUCD
Mynegodd Rheolwr Gyfarwyddwr IONA Minerals, Selwyn Owen, gyffro ynglŷn â’r cyfleoedd unigryw a gynigir drwy’r rhaglen. Pwysleisiodd Selwyn sut y gallai partneriaethau rhwng Iwerddon a Chymru ysgogi arloesedd a thwf economaidd. Dywedodd:
Selwyn Owen, Rheolwr Gyfarwyddwr, Iona Minerals
Yn ogystal â’i gysylltiad ag AgTechUCD, mae IONA Minerals hefyd yn cymryd rhan yn rhaglen cyflymu M-SParc ei hun, Lefel Nesaf 2024. Mae’r fenter 12 wythnos hon yn cefnogi busnesau newydd twf uchel yng Ngwynedd ac Ynys Môn, gan ddarparu adnoddau, hyfforddiant, a cefnogaeth ariannol.
Mae IONA Minerals yn enghraifft o botensial cydweithredu trawsffiniol a rôl canolfannau arloesi wrth hyrwyddo technoleg gynaliadwy a chydweithio. Wrth i AgTechUCD a Lefel Nesaf 2024 barhau i adeiladu sylfeini cryf ar gyfer busnesau newydd â photensial uchel, mae cwmnïau fel IONA Minerals mewn sefyllfa dda i wneud cyfraniadau effeithiol i’r sector technoleg amaeth, er budd yr amgylchedd ac economïau yng Nghymru, Iwerddon, a tu hwnt.
Os oes gennych chi fusnes arloesol yn gweithio yn AgriTech a thechnoleg bwyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru, gallwch nawr wneud cais am gyfran o gronfa Launchpad MFA gwerth £1.5 miliwn gan Innovate UK neu “Gronfa Her Technoleg Bwyd-Amaeth” Cronfa SBRI. Y dyddiad cau yw 11 Rhagfyr. Cysylltwch â Tom (tom@m-sparc.com) am help gyda’ch cais.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.