Blog Ffion Davies - M-SParc yn Japan

Author picture

Bûm yn ddigon ffodus yn ddiweddar i gynrychioli M-SParc a’n eco-system wych yn Japan ar daith fasnach gan Lywodraeth Cymru i gryfhau ymhellach y cysylltiadau rhwng y ddwy wlad sy’n awyddus i ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy gyfnewid gwybodaeth er mwyn dyfnhau’r berthynas a’r ddealltwriaeth o’r ddwy wlad.

Tra yn Tokyo, es am daith o amgylch pencadlys Sefydliad Masnach Allanol Japan (JETRO). Roedd yn fy atgoffa o M-SParc; mae yna swyddfeydd, mannau cydweithio, gofod digwyddiadau a gwasanaethau cymorth busnes ar gyfer y rhai sydd am sefydlu eu hunain yn y farchnad Japaneaidd. Roedd yn ddiddorol clywed y tebygrwydd rhwng JETRO ac M-SParc ac i’n tenantiaid a chynrychiolwyr busnesau newydd Cymreig eraill ar y daith ddeall mwy am y gefnogaeth y gall JETRO ei gynnig wrth edrych i sefydlu eu hunain ar y farchnad Japaneaidd.

Fe es i Parc Gwyddoniaeth ac Ymchwil Kitakyushu sy’n ganolfan ar gyfer gwyddoniaeth ac ymchwil yn Asia i hybu datblygiad technoleg mewn diwydiannau newydd. Agorodd am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2001 fel arbrawf o’i fath. Heddiw, mae prifysgolion blaenllaw sy’n rhannu egwyddorion Parc Gwyddoniaeth ac Ymchwil Kitakyushu, yn cynnal gweithgareddau addysg ac ymchwil mewn technoleg, gan ganolbwyntio’n arbennig ar dechnolegau amgylcheddol a gwybodaeth.

Mae Sefydliad Kitakyushu i Hyrwyddo Diwydiant, Gwyddoniaeth a Thechnoleg (FAIS) yn gweithio ar fentrau, feldatblygu adnoddau dynol medrus iawn a chefnogi cymorth ymchwil a datblygu (Y&D) a chydweithrediad diwydiant-academaidd. Bu llawer o gydweithio cadarnhaol ers agor y parc yn 2001 ac maent yn awyddus i barhau â’r cydweithrediadau hyn wrth symud ymlaen, gan gynnwys cydweithredu dros y môr. Roedd hyn yn adleisio ein gwaith gyda Phrifysgol Bangor gyda rhagoriaeth ymchwil mewn meysydd fel y Sefydliad Dyfodol Niwclear yn cyd-fynd ag anghenion diwydiant.

Un o uchafbwyntiau’r daith oedd cyflwyno ein platfform ar-lein “My-Sparc” i sefydliadau eraill yn Japan, cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a chynadleddwyr Connected Places Catapult. Roedd yn wych gweld y busnesau newydd arall yn gallu gwneud yr un peth, gan gynnwys ein tenantiaid, HydroWing. Roedd yr ymateb yn gadarnhaol, gyda rhai trafodaethau diddorol yn dilyn – byddwn yn awr yn ceisio adeiladu ar y trafodaethau hyn.

Un peth sy’n sicr yw bod gan y Japaneaid a’r Cymry lawer yn gyffredin ac rydyn ni’n dau yn falch o’n treftadaeth a’n diwylliant. Cawsom fore yn Stadiwm y Byd Mikuni yn Ninas Kitakyushu, lle defnyddiodd tîm rygbi Cymru fel canolfan yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd 2019. Roedd hyn yn ddechrau perthynas gadarnhaol a chryf rhwng y ddwy wlad sy’n dangos bod chwaraeon yn dod â pobl, cenhedloedd ac economïau gyda’i gilydd.

Cefais fy nharo gan Kitakyushu City a pha mor flaengar ydy o, ar ôl dioddef o broblemau llygredd difrifol yn y gorffenol. Y cyntaf i godi llais yn erbyn y mater hwn oedd mudiad o famau lleol yn pryderu am iechyd eu plant, a ddechreuodd y slogan; “Rydyn ni eisiau awyr las.” Roedd y môr hefyd yn cael ei adnabod fel “môr marwolaeth”… felly gallwch chi ddychmygu nad oedd hi’n wych i’ch iechyd chi fod yn byw yn Ninas Kitakyushu ar y pryd!

Ymlaen at 2025 ac roedd parodrwydd Kitakyushu i feddwl am atebion arloesol a chydweithio rhwng diwydiant, y byd academaidd a’r llywodraeth wedi helpu dinasyddion Kitakyushu i oresgyn y materion llygredd. Mae’r ddinas bellach yn adnabyddus am ei mentrau ecogyfeillgar a’i rhwydwaith cychwyn arloesol lle gall busnesau ffynnu.

Yn ystod y daith, ymwelais hefyd â’r Porthladd a gweld eu fferm wynt alltraeth sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd fel rhan o gynllun i Ddinas Kitakyushu ddod yn ddinas-eco. Gyda fy ngwaith yn cefnogi’r Gynghrair Ynni ar y Môr, mentrau fel Morlais a busnesau fel HydroWing, gallaf weld cyfleoedd ar gyfer cydweithredu pellach yn y dyfodol.

Cefais wythnos anhygoel yn Japan, yn sefydlu a chryfhau perthnasoedd newydd rhwng M-SParc, ein tenantiaid a Japan. Profais gymysgedd gwych o ddysgu am eu diwylliant a ffyrdd o weithio. Roedd yn hynod ddiddorol gweld y tebygrwydd rhwng Dinas Kitakyushu a Chymru a sut y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd!

Diolch i JETRO am ein cynnal drwy gydol yr wythnos ac i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i wneud iddo ddigwydd.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.