Y RHAGLEN
Mae’r rhaglen yn cynnwys; Bwtcamp Misol, Gweithdai, Dosbarthiadau Meistr, Cyllid a Chynnig, Hyfforddi a Mentora, i gyd wedi’u teilwra i gefnogi twf.
Byddwch yn elwa o rwydweithio gyda chyd-sylfaenwyr, rhannu gwybodaeth a chael dealltwriaeth bellach am gynllunio strategol, arweinyddiaeth, cyflwyno syniadau, brandio, adeiladu ffrydiau refeniw, twf arloesedd, masnacheiddio, datblygu cynnyrch, mynediad at y bwrdd na allwch ei fforddio, a’r cyfle i greu MVP digidol (cynnyrch hyfyw lleiaf), fel ap pwrpasol.
Yn ogystal â hyfforddiant ar gyflwyno eich busnes a’ch syniadau, byddwn yn eich cyflwyno i Rwydwaith Angel M-SParc lle gallwch gysylltu ag unigolion gwerth net uchel sy’n awyddus i fuddsoddi, gyda chyfleoedd i chi arddangos i fuddsoddwyr lleol, yn ogystal â chyflwyno ar raddfa genedlaethol yn Llundain. Bydd gan y garfan Lefel Nesaf fynediad ecsgliwsif hefyd i’n pot ariannu o £25,000.
Isod gallwch ddod o hyd i’r ffurflen gofrestru yn ogystal â gwybodaeth am ein carfannau blaenorol. Rydym yn disgwyl lefel uchel o ddiddordeb, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu cais o safon ‘da chi’n falch ohono, i sicrhau eich lle.
Y dyddiad cau i wneud cais yw hanner dydd ddydd Llun y 1af o Fedi, 2025.




