Rwyf wrth fy modd yn gweithio gydag entrepreneuriaid. Ar ôl bod trwy sawl busnes newydd fy hun, gwn fod materion heriol iawn bob amser yn codi ac fel Prif Swyddog Gweithredol / Sylfaenydd maent yn aml yn gorffwys ar eich ysgwyddau. Fy nghyngor i yw os ydych chi’n newydd i’r rôl a dyma’ch tro cyntaf, dewch o hyd i fentor da a pheidiwch â bod ofn gofyn, hyd yn oed os yw’n ymddangos yn gwestiwn gwirion ar y pryd. Mae yna lawer o bobl sydd wedi bod ar yr un daith a hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw’r atebion, byddan nhw’n medru rhoi chi ar ben ffordd i’ch helpu chi i ddod o hyd i ddatrysiad. Rydyn ni i gyd wedi bod yno!
Mae’n hawdd dweud dal ati pan fydd pethau’n mynd yn anodd, ond os oes gennych chi’r egni a’r penderfyniad i wneud hynny, fe ddaw’r llwyddiant. Rwyf, ym mron pob busnes a ddechreuais, wedi cyrraedd pwynt sawl gwaith lle roeddwn i’n meddwl ‘mae hyn yn amhosib’ neu ‘nid yw’n mynd i weithio’ a bu bron i mi rhoi’r ffidil yn y to. Ond bob tro roeddwn i’n cymryd cyngor, ac yn symud cam bach ymlaen a’r llwybrau’n cael eu clirio.
Pan fyddwch chi’n dechrau unrhyw beth, meddyliwch bob amser am eich allanfa. Mae yno lawer. Does dim rhaid i chi ddewis un ond byddwch yn agored am yr holl bosibiliadau a pheidiwch â bod ofn symud ymlaen tuag at bob un ohonynt. Pan ddaw’r amser, byddwch chi’n gwybod yn reddfol beth i’w wneud.
Byddwn yn dweud bod fy sgil mwyaf yn ymwneud â gweithio gyda phobl, dod i’w hadnabod, deall eu huchelgeisiau, gosod nodau cyraeddadwy iddynt, eu hysgogi a’u hannog. Rwy’n cofio fy un o’m busnesau newydd, y recriwt cyntaf oedd llanc 19 oed mewn rôl gwerthu. Aeth hi ymlaen i fod yn gyfarwyddwr ieuengaf cwmni a restrwyd gan AIM ac yn llwyddiannus iawn yn ei rhinwedd ei hun. Trwy ddod â’r bobl iawn gyda chi ar y daith, rydych chi’n gwella’ch siawns o lwyddo yn sylweddol.