M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Lefel Nesaf: Cwrdd â'r Bwrdd - Tim Clay

Jamie Thomas

Mae’r Cyflymydd Lefel Nesaf bellach yn ei anterth ac mae ein tîm yn mwynhau gweithio gyda charfan wych o naw busnes o ogledd Cymru sy’n gweithredu yn y sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg.

Yn gweithio’n galed i helpu’r naw busnes yn y garfan i dyfu a ffynnu mae Bwrdd Cynghori’r rhaglen, sydd wedi ymrwymo i’w helpu i fynd â’u busnesau i’r lefel nesaf gyda’u mentora arbenigol.

Un o’n Haelodau Bwrdd Cynghori gwych yw Tim Clay, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor sydd â bron i 40 mlynedd o brofiad yn cynghori gweithwyr proffesiynol, perchnogion busnes ac unigolion gwerth net uchel. Fe wnaethom gyfarfod ag ef yn ddiweddar i ddarganfod mwy am faint mae’n mwynhau bod yn rhan o Lefel Nesaf.

“Mae gen i rywfaint o wybodaeth ariannol, rhywfaint o wybodaeth am sefydlu busnes, rhedeg busnes a gadael busnes.

“Mae’r math o waith rydw i’n ei wneud – sy’n seiliedig ar gynllunio ariannol – yn bennaf gydag entrepreneuriaid sydd â chryn dipyn o arian sydd angen ei fuddsoddi, ac mae llawer o’r rheini wedi bod yn gleientiaid ers 10, 20 neu 30 mlynedd.

“Fyddwn i ddim yn dweud bod gen i unrhyw sgiliau penodol, ond mae gen i lawer o brofiad a rhwydwaith da o bobl rydw i’n delio â nhw yn y byd corfforaethol, yn bennaf yn Birmingham a Llundain, ac efallai eu bod nhw’n bobl y gallaf eu cyflwyno wrth i’r rhaglen fynd rhagddi.”

Mae’r Bwrdd Lefel Nesaf eisoes wedi cael eu sesiynau cyntaf yn cyfarfod ac yn cynghori’r busnesau sydd yn y garfan a bydd sesiynau hyfforddi pellach yn cael eu cynnal yn yr ychydig wythnosau nesaf.

Trafododd Tim yr hyn y mae wedi’i fwynhau am y rhaglen hyd yn hyn a’r hyn y mae’n gobeithio y gall ef a’i gyd-Aelodau o’r Bwrdd Cynghori helpu’r garfan i’w gyflawni erbyn diwedd y rhaglen.

Y peth pwysicaf yn y cyfnod cynnar yw’r bobl. Wrth gwrs, mae’n rhaid bod gennych syniad cadarn, ond y bobl sy’n hollbwysig gan mai nhw sy’n creu busnes, ac mae yna bobl drawiadol iawn yn y garfan, yn bendant, felly rydw i wedi mwynhau ein sesiwn gyntaf a chael dod i’w hadnabod.

Rydyn ni yma i roi’r cymorth a’r arweiniad sydd eu hangen arnyn nhw ac mae’n hynod ddiddorol bod yn rhan o’r broses. Erbyn diwedd y garfan, rydym yn gobeithio ein bod wedi rhoi rhywfaint o ffocws ar sut i fynd â’u syniadau i’r farchnad, sut i godi cyllid ac o ble, yn ogystal â chyngor cyffredinol ar sut i strwythuro eu busnes.

Rydych chi’n mynd trwy gyfnod anodd yn adeiladu busnes o’r newydd, felly os oes gennych chi rai pobl o’ch cwmpas sydd wedi bod drwy’r broses a all ddarparu rhywfaint o gymorth ymarferol a moesol, yna mae’n debyg mai dyna’r ffordd orau i ni gefnogi’r busnesau hyn yn ein rôl fel cynghorwyr a mentoriaid.”

Olu Peyrasse, llun proffil, eistedd ar soffa

Eisiau gwybod mwy am Lefel Nesaf?

Cysylltwch â’n Harweinydd Rhaglen Cyflymydd, Olu, a fydd yn hapus i helpu.