Cystadlodd 8 tîm o 3 am £1000 yn ein twrnamaint Rocket League, a gynhaliwyd yn y Sfferen ym Mhentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg ddydd Sadwrn y 9fed o Awst, 2025.
Gyda chefnogaeth gan Esports Wales a Rondo Media, dyma oedd ein hail gystadleuaeth esports erioed, a ddarlledwyd yn fyw ar Hansh (S4C).
Yr enillwyr oedd YnChwarae, a fydd yn amddiffyn eu coron yn 2026. Os hoffech chi gymryd rhan neu drafod cyfleoedd yn y dyfodol, anfonwch e-bost at level@m-sparc.com.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.