Llyfrgell Patentau Gyntaf Gogledd Cymru i Lansio yn M-SParc

Gwahoddir arloeswyr, crewyr ac entrepreneuriaid o bob cwr o'r rhanbarth i fynychu lansiad swyddogol Llyfrgell Patentau Gogledd Cymru yn M-SParc ddydd Mercher, Mehefin 4.

Bydd y gwasanaeth newydd yn ymuno â rhwydwaith PatLib y DU; rhwydwaith o Lyfrgelloedd Patentau sydd â staff o gynghorwyr Eiddo Deallusol (IP) hyfforddedig sy’n darparu cefnogaeth ac arweiniad ymarferol ar Hawliau Eiddo Deallusol (IPR), gan gynnwys patentau, nodau masnach, hawlfraint a diogelu dyluniadau.

M-SParc fydd 25ain PatLib y DU a’r cyntaf yng Ngogledd Cymru, gan gynnig cefnogaeth ac arweiniad dwyieithog i fusnesau, busnesau newydd, busnesau bach a chanolig, ymchwilwyr ac arloeswyr ledled Gogledd Cymru a thu hwnt.

Daw’r lansiad ar adeg o ffocws cynyddol ar dwf economaidd dan arweiniad arloesedd ledled Gogledd Cymru, gyda chyfleoedd cynyddol yn dod i’r amlwg mewn sectorau sy’n gyfoethog o ran eiddo deallusol fel technoleg, ynni, ymchwil a diwydiannau uwch. Nod y gwasanaeth PatLib newydd yw amddiffyn, datblygu a masnacheiddio syniadau’n well yn lleol, gan helpu arloeswyr i ddeall sut i amddiffyn a datgloi gwerth llawn eu heiddo deallusol o fewn eu sefydliad.

Bydd y digwyddiad lansio yn dod â busnesau, gweithwyr proffesiynol, ymchwilwyr a rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru ynghyd i ddathlu agoriad y gwasanaeth. Bydd cynrychiolwyr o Swyddfa Eiddo Deallusol y DU (IPO), sy’n cefnogi rhwydwaith PatLib ledled y DU, hefyd yn bresennol.

Bydd y rhaglen yn archwilio sut y gall gwasanaethau PatLib gefnogi ymchwil, datblygu a thwf masnachol, yn enwedig ar gyfer mentrau bach a chanolig. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys trafodaeth banel yn canolbwyntio ar y gefnogaeth sydd ar gael i arloeswyr, crewyr a busnesau newydd.

Yn siarad cyn y lansiad, dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc:

Mae Gogledd Cymru yn dechrau cyfnod cyffrous o dwf a chyfleoedd ar draws sectorau gan gynnwys ynni, technoleg ac ymchwil, ac mae’n bwysig bod gan fusnesau ac arloeswyr yn y rhanbarth fynediad at y gefnogaeth gywir i amddiffyn a chynyddu gwerth eu syniadau.

Dros y blynyddoedd diwethaf, dan ni wedi gweithio i gryfhau sgyrsiau ynghylch eiddo deallusol drwy fentrau fel Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd a Diwrnod Menter Cymru, gan helpu busnesau i ddeall yn well bwysigrwydd diogelu a masnacheiddio arloesedd.

Mae dod yn PatLib cyntaf yng Ngogledd Cymru yn garreg filltir arwyddocaol i M-SParc ac i’r rhanbarth ehangach, ac dan ni’n falch o allu darparu cefnogaeth eiddo deallusol dwyieithog, hygyrch yma yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gorfodi, Busnes a Rhyngwladol yr IPO, Nastasha Chick:

Mae hon yn garreg filltir wirioneddol gyffrous ar gyfer cefnogaeth arloesi ledled Cymru. Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn falch iawn o groesawu M-SParc i rwydwaith PatLib y DU fel y 25ain Llyfrgell Patentau – a’r gyntaf un yng Ngogledd Cymru.

Bydd gan fusnesau sefydledig, cwmnïau newydd ac ymchwilwyr yng Ngogledd Cymru fynediad nawr at ganllawiau IP arbenigol, lleol i’w helpu i amddiffyn a thyfu eu syniadau. Gall y math hwnnw o gefnogaeth ymarferol wneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn enwedig i fusnesau bach a chanolig lle gall mynediad at y cyngor IP cywir ar yr amser iawn fod yn hanfodol.

Mae rhwydwaith PatLib yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu busnesau ac unigolion sy’n awyddus i dyfu a datgloi gwerth llawn eu harloesedd, ac rydym wrth ein bodd bod gan Ogledd Cymru ei chartref ei hun yn y rhwydwaith hwnnw bellach. Edrychwn ymlaen at weld y gwahaniaeth y mae’n ei wneud ar draws y rhanbarth a thu hwnt.

Ychwanegodd y bargyfreithydd, y cyfryngydd a’r dyfarnydd eiddo deallusol Jane Lambert (NIPC Law):

Mae’r cyhoeddiad am lansio Llyfrgell Patentau Gogledd Cymru yn rhoi cryn foddhad personol i mi oherwydd fy mod wedi bod yn ceisio cael M-SParc i ddarparu’r adnoddau a gynigir gan lyfrgelloedd PatLib ers cyhyd ag yr wyf wedi adnabod y parc gwyddoniaeth.

Mae llyfrgelloedd PatLib mewn mannau eraill yn y DU wedi bod yn gatalyddion ffurfio busnesau ac arloesi. Maent yn cynnal dosbarthiadau, arddangosfeydd, darlithoedd a chyfarfodydd ar bopeth o gadw llyfrau syml i drwyddedu patentau. O 4 Mehefin 2026, bydd M-SParc yn rhan o’r rhwydwaith hwnnw. Bydd y cyfleoedd i’w denantiaid ac yn wir busnesau o bob math ledled Gogledd Orllewin Cymru yn ddiddiwedd.

Bydd Llyfrgell Patentau Gogledd Cymru yn cryfhau rôl M-SParc ymhellach fel canolfan ar gyfer arloesi, menter a chydweithio yng Ngogledd Cymru, gan gefnogi sefydliadau ym mhob cam o’u taith twf.

Mae’r digwyddiad lansio am ddim i fynychu, ond mae angen cofrestru.

Cofrestrwch drwy Eventbrite – patlib.eventbrite.co.uk

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.