Mae hyfforddiant llythrennedd carbon yn rhaglen addysgol sydd wedi’i gynllunio i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o allyriadau carbon, newid yn yr hinsawdd, a’r effeithiau cysylltiedig.
Mae’r Carbon Literacy Project yn diffinio Llythrennedd Carbon fel “ymwybyddiaeth o gostau ac effeithiau carbon gweithgareddau bob dydd a’r gallu a’r cymhelliant i leihau allyriadau, ar sail unigol, gymunedol a sefydliadol.”
Mae’n briodol i ystod eang o gynulleidfaoedd, gan gynnwys gweithwyr busnesau ac asiantaethau’r llywodraeth, myfyrwyr, aelodau o’r gymuned, a’r cyhoedd.
Y nod yw ennyn diddordeb a chreu cymdeithas fwy gwybodus sy’n gallu gwneud dewisiadau amgylcheddol cyfrifol a chefnogi polisïau ac arferion cynaliadwy.
Astudiaeth o system hinsawdd y Ddaear, gan gynnwys yr atmosffer, cefnforoedd, a thir, i ddeall eu heffeithiau.
Gollwng carbon deuocsid (CO₂) a nwyon tŷ gwydr eraill i'r atmosffer.
Effeithiau amodau newidiol yn yr hinsawdd ar ecosystemau, patrymau tywydd, iechyd dynol, economïau a seilwaith.
Hysbysu ac ymgysylltu â phobl i godi ymwybyddiaeth, dylanwadu ar bolisïau, ac ysgogi camau gweithredu ar gyfer dyfodol cynaliadwy.
Bydd y pynciau’n cynnwys y canlynol:
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig dau gwrs Llythrennedd Carbon er mwyn i chi a’ch tîm gael eich hachredu mewn Llythrennedd Carbon. Gellir cyflwyno ein cyrsiau yn Gymraeg neu Saesneg.
Cyn gitarydd roc teithiol rhyngwladol wedi troi’n gwrw cynaliadwyedd ac ynni carbon isel!
Mae Rhodri yn Swyddog Arloesi o fewn tîm Carbon Isel M-SParc, yn cefnogi datblygiadau newydd yn y rhanbarth, gan ysgogi’r economi werdd a’i chadwyn gyflenwi ehangach. Graddiodd Rhodri gyda Gradd Meistr mewn Cemeg o Brifysgol Bryste ac mae wedi treulio blynyddoedd lawer yn y byd academaidd a diwydiant (rhwng cyfnod fel gitarydd teithiol rhyngwladol). Mae ganddo brofiad helaeth o arwain prosiectau, gyda ffocws arbennig ar y sector carbon isel, ac mae’n dod â gwybodaeth dechnegol, rheoli prosiect a sgiliau ysgrifennu cynigion rhagorol i’r tîm.
Mae’n unigolyn angerddol ac ysgogol, gyda diddordeb brwd mewn datblygu ynni carbon isel, ac awydd dwfn i arddangos sut y gall Gogledd Cymru ac ardaloedd gwledig eraill ar draws y DU arwain y ffordd mewn arloesedd a dyhead ar ein taith tuag at gymdeithas ryngwladol Sero Net.
"Roedd y gweithdy hyfforddi Llythrennedd Carbon yn agoriad llygad ac yn ddiddorol dros ben. Er ei fod yn bwnc trwm, fe wnaeth Rhodri ddal ati drwy gydol y dydd, gan ein cefnogi ni drwy'r newidiadau gweithredol y gallwn eu gwneud i'n bywydau i leihau ein hôl troed carbon; ynghyd â'n helpu i ddeall y goblygiadau a wynebwn gyda diffyg gweithredu. Diolch!"
"Roedd y Gweithdy Llythrennedd Carbon yn gynhwysfawr, yn addysgiadol ac yn llawn gwybodaeth. Roedd Rhodri yn diwtor gwybodus a diddorol iawn a gyflwynodd y sesiwn yn effeithlon ac yn gryno. Byddwn yn argymell y gweithdy i unrhyw un sydd am leihau eu hôl troed carbon - naill ai fel unigolyn neu fel busnes."
"Deall eich ôl troed carbon personol a phroffesiynol yw'r cam cyntaf y gallwch ei gymryd i wneud newid cadarnhaol. Mae'r cwrs hwn yn rhoi'r twls i chi."
"Roedd yr hyfforddiant yn cwmpasu ystod eang o bynciau, ac roeddwn yn gwerthfawrogi'n arbennig yr awgrymiadau ymarferol a ddarparwyd ar ddeall achosion allyriadau, yn ogystal â'r dulliau ar gyfer atal a lliniaru. Roedd elfennau rhyngweithiol y gweithdy yn arbennig o ddiddorol, yn enwedig y trafodaethau ar sut y gall olion traed carbon unigol effeithio ar ymdrechion datgarboneiddio."
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.