M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Lucy Farrar yn cymryd mantais lawn o ofod #AryLôn Bae Colwyn!

Charlie Jones

Mae Lucy yn athrawes Dylunio a Thechnoleg sydd wedi ymddeol a sydd wedibod yn galw i mewn i’n lleoliad #ArYLon ym Mae Colwyn bron bob dydd er mwyn sefydlu ei busnes; Sheep Creations. Mae Lucy yn Gymraes balch o ardal Bae Colwyn, ac mae hi hefyd yn fyfyriwr diwinyddiaeth Gristnogol (oeddech chi’n gwybod mai defaid yw’r anifail sy’n cael ei grybwyll amlaf yn y Beibl?!?)

Ar ei gwefan, dywed Lucy nad ydi ei chynnyrch yn cael ei chreu gan ddefaid, ond fel plentyn sefydlodd ei merch ei busnes ei hun o’r enw ‘Sheep Creations’ felly cymerodd Lucy’r enw. Nid oedd hawlfraint arno wedi’r cyfan!

Ar ôl treulio blynyddoedd yn gwneud crefftau fel hobi, gwelodd Lucy y lleoliad #ArYLon fel cyfle perffaith iddi gymryd y naid a dechrau ei busnes ei hun. Gyda chymorth yr Hwb Menter, derbyniodd Lucy y cyngor a’r wybodaeth yr oedd eu hangen arni i roi hwb i’w thaith hunangyflogaeth.

Dywed Lucy ei bod yn teimlo “Mor lwcus i gael y cyfleuster hwn ar garreg fy nrws!”, mae hi wedi bod yn gwerthu amrywiaeth o eitemau y mae hi wedi’u creu yn Ffiws o fygiau i ddillad babi a chrysau-t, ynghyd ag eitemau eraill y mae hi wedi bod yn arbrofi gyda.

Mae Ffiws wedi dod yn lleoliad cyfarwydd i Lucy, ar ôl cael ei sefydlu ar y peiriannau a’u defnyddio’n rheolaidd. Mae hi bellach yn hyfedr ac yn hyderus wrth ddefnyddio’r holl beiriannau tra’n mynychu ein lleoliadau #ArYLon, ac mae Lucy hefyd wedi cael y cyfle i brofi masnach o flaen ein siop ym Mae Colwyn am ddim, gan arddangos a gwerthu ei chynnyrch.

Dywed Ben Roberts ein Rheolwr #ArYLon ar gyfer M-SParc “mae wedi bod yn wych gweld Lucy yn dod bron bob dydd i’n gweld ac yn defnyddio gofod gwneud Ffiws, mae hi wedi magu hyder a chreadigrwydd. Yn M-SParc rydym yn falch o allu cefnogi ac arwain busnesau newydd ar eu taith”

Mae Lucy wedi mynd â hyn hyd yn oed ymhellach drwy gynnal dwy ffair grefftau ochr yn ochr â Siwan Jones (Swyno Books) a Steve Willis (Steve Willis Art) yn lleoliadau #ArYLon Bae Colwyn a Bangor.

Ar ôl dechrau ei busnes creadigol mae Lucy wedi gorfod mynd i’r afael â’i chyfryngau cymdeithasol ac mae wedi bod yn mynychu digwyddiadau M-SParc i helpu i gael rhagor o wybodaeth i helpu i hyrwyddo ei busnes ymhellach.

Mae popeth mae Lucy yn ei greu yn unigryw ac wedi’i wneud yn unigol, os ydych chi’n chwilio am anrheg ar gyfer rhywun neu achlysur arbennig gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cysylltu â hi! Gallwch ddod o hyd i gynnyrch Lucy a’i brynu trwy ei gwefan yma: https://www.sheep-creations.co.uk neu drwy ddilyn ei thudalennau cyfryngau cymdeithasol @sheepcreations. Mae’n debyg y byddwch hefyd yn gweld Lucy yn galw i mewn ac allan o’n lleoliad #ArYLon ym Mae Colwyn.

Newyddion Perthnasol