
Gyda’i gilydd, mae’r Eisteddfod ac M-SParc yn gweddnewid yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn arloesol ac yn annog pobl i feddwl am Gymru fel lle o newid, ffyniant a chyfle. M-SParc eleni sy’n gyfrifol am arwain y trefniadau ar gyfer y pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg newydd yng Ngheredigion, ac mae hefyd eisoes yn gwneud y trefniadau ar gyfer Eisteddfod 2023 yn Llŷn ac Eifionydd.
Bydd y pentref yn cynnal digwyddiadau, arddangosfeydd, gweithgareddau, arbrofion, trafodaethau, sgyrsiau, darlithoedd a mwy, yn seiliedig ar y sector Gwyddoniaeth a Thechnoleg gyda chwmnïau a sefydliadau o bob cwr o Gymru yn darparu’r adloniant. Mae M-SParc wedi rhannu gweledigaeth gyda’r Eisteddfod i wneud hyd yn oed mwy ar gyfer Eisteddfod Pen Llŷn, gan sicrhau ei bod yn wythnos fythgofiadwy i ysbrydoli unrhyw un sy’n ymweld.
Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc“Pan glywson ni fod yr Eisteddfod yn chwilio am rywun i helpu i gydlynu’r Pentref, fe wnaethon ni neidio ar y cyfle. Gorau po fwyaf o bobl y gallwn ni eu hysbrydoli a’u cyrraedd i ddatblygu eu diddordeb mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, yn enwedig Cymry sydd efallai’n teimlo diffyg cysylltiad rhwng y sectorau hynny a’r hyn y maen nhw’n credu sydd ar gael yma yng Nghymru. Mae arloesedd yn gofyn am greadigrwydd, sydd ar gael yn helaeth ar y Maes!”
Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod “Rydym wedi bod wrth ein bodd gyda sut mae’r Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg wedi datblygu eleni, ac rydym yn gyffrous i glywed beth sydd gan dîm M-SParc ar y gweill ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rydym hefyd yn trafod nifer o syniadau arloesol gyda’r tîm ac yn edrych ymlaen at gydweithio’n agosach dros y misoedd nesaf.”
Mae M-SParc eisoes wedi bod yn trafod opsiynau hybrid ar gyfer elfennau o’r Eisteddfod ochr â Haia, cwmni yn M-SParc sy’n datblygu’r platfform digwyddiadau ar-lein cwbl hygyrch cyntaf, gyda chyfieithiad Cymraeg awtomataidd. Gyda’i gilydd, mae Haia, M-SParc a’r Eisteddfod yn edrych ar opsiynau ar gyfer cynnal rhannau o’r Eisteddfod dros y wê yn y dyfodol.
“Does dim rheswm i bobl sy’n teimlo nad ydyn nhw’n gallu mynd i’r Eisteddfod golli allan, boed hynny am resymau iechyd, daearyddiaeth, neu unrhyw beth arall, ac rydyn ni wrthi’n trafod hyn ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut mae’r trafodaethau yma’n datblygu.” meddai Tom Burke, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Haia. Mae M-SParc yn berchen ar Haia yn rhannol, ac mae wedi cydnabod ei effaith gadarnhaol bosibl ar gymunedau Cymru.
Ddydd Iau 4ydd Awst, bydd iaith ac arloesedd yn dod at ei gilydd yn yr Eisteddfod ar gyfer y Diwrnod Technoleg Iaith Bydd busnesau o M-SParc gan gynnwys Haia, Schloc, cwmni cyfieithu gemau fideo rhyngwladol, Uned Technoleg Iaith Prifysgol Bangor, Ogi Ogi, sy’n datblygu ap dysgu Cymraeg i rieni ochr yn ochr â thenantiaid M-SParc, a mwy, yn bresennol i arddangos eu gwaith.
Cynhelir trafodaeth panel ar Dechnoleg Iaith a’r Cyfleoedd i Gymru am 1pm. Bydd Sioned Young o Mwydro yn rhan o’r panel, ar ôl ennill Hac Iaith M-SParc a Llywodraeth Cymru yn ddiweddar, gan fynd ati i ateb y cwestiynau ynglŷn â sut gall technoleg newydd ddatblygu ffyrdd i siaradwyr Cymraeg presennol ddefnyddio’r iaith yn fwy yn eu bywydau bob dydd. Bydd Sioned yn canolbwyntio ar ei gwaith o weithdai cymunedol mewn ardaloedd dosbarth gweithiol, gan arwain at ddatblygu buddiannau iaith Gymraeg ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a fydd yn galluogi siaradwyr Cymraeg i barhau i gyfathrebu yn eu hiaith frodorol – pam dweud Menai Bridge yn hytrach na Phorthaethwy?