Mae’r fenter Targedau Seiliedig ar Wyddoniaeth (SBTi) yn gorff a gydnabyddir yn fyd-eang, sy’n helpu cwmnïau i osod targedau uchelgeisiol i leihau allyriadau, yn unol â’r wyddoniaeth hinsawdd ddiweddaraf.
Mae’r fenter yn darparu fframwaith clir i sefydliadau leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan sicrhau bod eu targedau’n gyson â nodau Cytundeb Paris. Mae hyn yn y bôn yn golygu na all M-SParc dwyllo! Mae ein targedau Sero Net yn cael eu gwirio a bydd yr hyn ‘da ni’n honni yn wir.
Mae targedau lleihau allyriadau M-SParc wedi’u cymeradwyo gan y fenter SBTi fel rhai sy’n gyson â’r lefelau sy’n ofynnol i gyflawni nodau Cytundeb Paris. Mae’r targedau sy’n ymwneud ag allyriadau nwyon tŷ gwydr o weithrediadau M-SParc yn gyson â’r gostyngiadau sydd eu hangen i gadw cynhesu i 1.5°C, sef y lefel mae gwyddor hinsawdd wedi dweud sydd ei angen i atal effeithiau mwyaf niweidiol newid hinsawdd.
I unrhyw gwmni, mae gweithio gyda sefydliadau fel y SBTi yn hanfodol am sawl rheswm. Yn gyntaf, mae’n darparu fframwaith trwyadl, seiliedig ar wyddoniaeth, sy’n sicrhau bod targedau lleihau allyriadau yn cyd-fynd â gwyddor hinsawdd. Mae hyn yn helpu cwmnïau i osgoi’r peryglon o osod targedau sy’n amhosib i gyflawni.
Yn ail, mae’r SBTi yn cynnig proses annibynnol. Mae’r broses wedi’i hadolygu gan gymheiriaid, ar gyfer dilysu targedau, fel bod gwell tryloywder ac atebolrwydd. Mae’r dilysiad allanol ‘ma yn hanfodol er mwyn osgoi’r canfyddiad o “farcio ein gwaith cartref ein hunain,” gan sicrhau bod ein honiadau o gynaliadwyedd yn gredadwy ac yn wiriadwy gan safonau rhyngwladol.
Mae deall y gwahaniaeth rhwng ‘Niwtraliaeth Carbon’ a ‘Sero Net’ yn hanfodol yn y cyd-destun yma. Mae ‘Niwtraliaeth Carbon’ yn cyfeirio’n gyffredinol at gydbwyso swm y CO2 a allyrrir â gwrthbwyso cyfatebol, megis prynu credydau carbon, heb o reidrwydd leihau allyriadau mewn termau absoliwt. Mae ‘Sero Net’, ar y llaw arall, yn golygu lleihau’r holl allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr i mor agos at sero â phosibl, gydag unrhyw allyriadau sy’n weddill yn cael eu cydbwyso trwy dynnu swm cyfatebol o’r atmosffer.
Mae cyflawni Sero Net yn gofyn am ymdrechion mwy cynhwysfawr a pharhaus o gymharu â niwtraliaeth carbon, gan ei wneud yn darged mwy cadarn ac ystyrlon ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd.
Bydd y cydweithio hwn yn ein helpu i ddatblygu a gweithredu mesurau effeithiol i leihau ein hôl troed carbon, gan wella ein hygrededd a’n hatebolrwydd.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.