Cefais y pleser o ymweld â MIT yn 2019 gyda Llywodraeth Cymru a’u Rhwydwaith Hwb Menter. Rhoddais gamau gweithredu a dilyniant i mi fy hun ar yr ymweliad, a’r olaf oedd ”Hoffwn yn fawr ddod ag Eco-System M-SParc i MIT un diwrnod.” Wythnos yma, cwblheais y weithred ‘na wrth imi ymweld fel rhan o grŵp o 16 gan gynnwys busnesau newydd, academyddion, darparwyr cymorth busnes a staff M-SParc; dyma fy meddyliau wrth i ni deithio yn ôl (gyda bagiau o dan y llygaid ac ar ein cefnau) i Gymru!
Meddwl a Llaw? Oeddech chi’n gwybod mai arwyddair MIT yw Mens et Manus, “Meddwl a Llaw” ac mae’n ymwneud â’r ffaith mai dim ond trwy gyfuniad o feddwl a gweithredu ymarferol y gall rhywun gael effaith o wybodaeth. Mae arwyddlun MIT (dde) yn cyfeirio at hyn ac mae’n atseinio; ni fydd syniadau a gwybodaeth yn unig yn cyflawni’r effaith sydd ei hangen arnom yn ein rhanbarth, arloesi yw’r broses o gael gwerth o’r wybodaeth honno, y gweithredu ymarferol.
Ond a yw MIT yn colli rhywbeth? Codwyd calon, angerdd, egni a brwdfrydedd gan dîm M-SParc trwy gydol yr ymweliad fel rhan allweddol o eco-system effeithiol ac iach. Mae gennym ni hyn mewn tomen yn M-SParc, mae’n heintus, ynghyd â’r meddwl a’r llaw, y galon sy’n ein gwneud ni’n wahanol. ‘Dw i’n dadlau, er mwyn cyflawni’r hyn yr ydym ei eisiau, mae angen y Llaw, y Meddwl a’r Galon!
Model REAP Ar fy ymweliad diwethaf yn 2019, fe wnaethom archwilio’r Model REAP a nododd elfennau allweddol ecosystem iach. Mae busnesau newydd, cyllid, y llywodraeth, y byd academaidd a chorfforaethau i gyd yn gweithio gyda’i gilydd yn y model REAP i yrru arloesedd ac entrepreneuriaeth yn eu blaenau ac yn y gofod hwnnw yr ydym ni fel M-SParc yn byw, yn y canol, yn cysylltu, yn ysbrydoli ac yn bywiogi ein partneriaid. Diolch arbennig i Dr.Phil Budden am gyflwyno’r model i’r garfan a oedd yn arbennig o amserol wrth i ni ymgynghori ar strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru.
Hyder. Hyder oedd y rheswm roeddwn i eisiau mynd ag eco-system M-SParc i MIT. Wyddwn o’m hymweliad blaenorol fod gennym bopeth sydd ei angen arnom yng Nghymru i ddarparu Entrepreneuriaeth a yrrir gan Arloesedd (IDE). Mae’r raddfa yn MIT yn wahanol i’r hyn sydd gennym, ond o ran syniadau, egni, cymuned a chalon. ‘Da ni yno gyda phobl anhygoel ac rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd i’r gwaith ddydd Llun yn llawn egni ac yn llawn syniadau.
Sgwad. Yn olaf, croeso mawr i’r grŵp astudio, entrepreneuriaid, academyddion, darparwyr cymorth busnes a thîm M-SParc a ddaeth at ei gilydd a rhoi’r cyfan i’r ymweliad. Roedd yr ymweliad yn ysbrydoledig ac yn addysgiadol ond roedd y perthnasoedd hyn a dyfodd o fewn ein heco-system ein hunain dros yr wythnos yn ganlyniad allweddol i mi. Da iawn bawb!