M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

M-SParc...Skill-SParc!

Charlie Jones

Fel Rheolwr Allgymorth a Chymunedol M-SParc, ‘dw i am rannu ychydig o newyddion gyda chi am raglen ‘da ni wedi bod yn datblygu tu ôl i’r llenni arni ers peth amser! Yn cyflwyno Sgil-SParc; cyfres gynhwysfawr o weithdai a rhaglenni wedi’u cynllunio i gefnogi’r cwricwlwm newydd i Gymru a chau’r bwlch sgiliau yn y rhanbarth!

Gadewch i ni gymryd cam yn ôl. Yn 2016 (ia, cyn i ni hyd yn oed gael adeilad!) fe ddechreuon ni yn M-SParc gynnal gweithdai STEM gyda’r nod o annog mwy o bobl ifanc i ymgysylltu â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, a mathemateg. Sylweddolom yn gyflym fod gwir angen am y mathau hyn o ddigwyddiadau, ac roedd yr adborth gan y disgyblion, rhieni ac athrawon yn hynod gadarnhaol.

Buom yn cydweithio gyda phartneriaid ar draws y rhanbarth i wneud hyn, ac o’r Eisteddfod i’r cwrt yng nghanol M-SParc, rydym wedi cael digwyddiadau cyffrous mewn mannau diddorol! Roeddem yn gwybod ein bod am barhau â’r gwaith hwn, ond hefyd yn cydnabod yr angen i esblygu ac addasu i ddiwallu anghenion ein cymuned, partneriaid rhanbarthol, a’r cwricwlwm newydd i Gymru.

Dros y blynyddoedd, mi ‘da ni wedi parhau i gynnal digwyddiadau STEM, ac wedi ehangu ein ffocws i gynnwys entrepreneuriaeth a datblygu busnes. Fel canolbwynt ar gyfer arloesi a chydweithio, rydym yn ymroddedig i helpu busnesau lleol i ffynnu, a chredwn fod cefnogi entrepreneuriaeth yn rhan allweddol o hynny.

Dyna pam mae mor gyffrous medru cyhoeddi ein rhaglenni Sgil-SParc. Mae’r rhaglenni hyn wedi’u cynllunio i gynnig profiadau dysgu ymarferol mewn entrepreneuriaeth a datblygu busnes. Ar hyn o bryd mae gennym 8 rhaglen, ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, gyda chyfres o 10 sesiwn ym mhob un i sicrhau profiad dysgu cynhwysfawr. Mae’r pynciau’n cynnwys Ynni, Creadigol-Digidol, Codio, ac Entrepreneuriaeth. Bydd y rhain yn digwydd mewn ysgolion, mewn diwydiant, ac yn M-SParc, gyda ffocws ar themâu ysgolion unigol. Credwn y bydd y rhaglenni hyn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau pwysig a fydd yn werthfawr mewn unrhyw lwybr gyrfa STEM. Mae pob un wedi ei gymeradwyo gan ddiwydiant a chan ysgolion, a gyda chefnogaeth lawn gan Awdurdodau Lleol.

Un o nodweddion unigryw ein rhaglenni Sgil-SParc yw y byddant yn cael eu cyflwyno yn Gymraeg. Credwn ei bod yn bwysig cefnogi’r iaith Gymraeg a’i diwylliant, ac rydym am wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael mynediad at brofiadau dysgu o ansawdd uchel yn eu hiaith gyntaf.

Mae Sgil-SParc hefyd yn cynnwys ein gweithdai Digidol ac Egni i oedolion, a’n Hacademi Sgiliau i helpu unigolion cael gwaith mewn diwydiant.

Rydw i mor falch i fod yn rhan o’r fenter hon, ac i gydweithio gyda chydweithwyr Pryderi a Tanya i ddatblygu a hyrwyddo’r cynllun. Mae’r gefnogaeth wedi bod yn hynod gadarnhaol, ac mae gallu rhannu’r syniad gyda phawb mor gyffrous. Medrari’m disgwl i weld plant yn newid y ffordd y maent yn rhyngweithio â STEM, a sicrhau bod pobl ledled gogledd Cymru wir yn teimlo y gallant fanteisio ar y cyfleoedd gyrfa sy’n dod i’r amlwg yn y rhanbarth.

Diolch i’r RSP a hefyd ein tenantiaid am fod mor agored am y drafodaeth bwlch sgiliau; trwy’r sgyrsiau gwerthfawr hyn yr ydym wedi gallu sicrhau bod Sgil-SParc yn bodloni gofynion diwydiant mewn gwirionedd.

Rydym yn gyffrous am ddyfodol M-SParc a’r effaith y gallwn ei chael ar ein cymuned. Drwy gynnig rhaglenni STEM, entrepreneuriaeth, a datblygu busnes o ansawdd uchel, rydym yn gobeithio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr ac entrepreneuriaid. A thrwy gyflwyno’r rhaglenni hyn yn Gymraeg, rydym yn gobeithio hybu a chefnogi’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Medrai’m aros i weld y cyfan yn dod at ei gilydd!

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw