M-SParc yn cefnogi myfyrwyr Bangor sy'n gyrru arloesedd drwy fwrsariaeth ymchwil gymunedol newydd

Mae M-SParc wedi ymuno â Phrifysgol Bangor, Cyngor Dinas Bangor ac Undeb Bangor i gefnogi ymchwil dan arweiniad myfyrwyr sy'n cael effaith wirioneddol ar y gymuned leol. Fel rhan o'r cynllun bwrsariaeth newydd, mae pedwar prosiect arloesol wedi cael eu hariannu - gan gynnwys un a ddyfarnwyd cyllid cyfatebol ychwanegol iddo gan M-SParc am ei ddull newydd o ymdrin â lles ym Mangor.

Darparwyd cyfanswm o £3,000 mewn cyllid bwrsariaeth drwy Gyngor y Ddinas, gan ddenu 18 o gynigion cystadleuol o ansawdd uchel gan fyfyrwyr ledled y brifysgol. Ar ôl proses ddethol drylwyr, mae panel o gynrychiolwyr o Gyngor y Ddinas, y brifysgol, Undeb Myfyrwyr Bangor, ac M-SParc wedi dyfarnu pedair bwrsariaeth i brojectau ymchwil dan arweiniad myfyrwyr, pob un yn cynnig mewnwelediadau unigryw ac effaith bosibl ar gymuned Bangor a’r rhanbarth ehangach.

Y pedwar project llwyddiannus yw:

Joseph Roy – Bangor fel labordy byw: Profiadau natur amlsynhwyraidd a’u heffaith ar lesiant trefol.

Mae’r project arloesol hwn yn pontio gwyddoniaeth seicolegol sylfaenol â chymwysiadau therapiwtig ymarferol, gan ddefnyddio mannau gwyrdd Bangor i greu ymyriadau ar sail tystiolaeth i wella iechyd meddwl a lles cymunedol. I gydnabod potensial y project, dyfarnodd y panel yn unfrydol y £1,000 ychwanegol mewn cyllid cyfatebol gan M-SParc i Joseph i gefnogi datblygiad parhaus ei ymchwil.

Charlotte Maloney – Môr clir: Darganfod bywyd cudd y Fenai o Bier Garth Bangor.

Mae menter Charlotte yn dwyn ynghyd ymchwil academaidd, gwirfoddolwyr, a sefydliadau elusennol i gysylltu’r cyhoedd â bioamrywiaeth forol Afon Menai trwy addysg, allgymorth, ac adnoddau – gan feithrin ymwybyddiaeth amgylcheddol ac ymgysylltiad cymunedol.

Madison Ramsey – Datgelu straeon cudd Cadeirlan Bangor.

Mae ymchwil Madison yn archwilio hanes cyfoethog a haenog Cadeirlan Bangor, gyda ffocws penodol ar arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol ei llyfrgell fenthyca – sydd ymysg yr hynaf yng Nghymru.

Luke Lambert – Aneddiadau eglwysig canoloesol cynnar yng Nghymru yn ystod cyfnod o chwyldro, 700–1100.

Mae ymchwil hanesyddol Luke yn ymchwilio i gyfnod cynnar bywyd eglwysig ym Mangor, gan archwilio sut aeth yr eglwys ati i addasu ac esblygu trwy gyfnod o newid mawr yn wleidyddol ac yn ddiwylliannol.

Joseph yn ein lleoliad #ArYLôn ym Mangor.

Mae’r gronfa bwrsariaeth yn gydweithrediad rhwng Cyngor Dinas Bangor, Prifysgol Bangor (tîm ymgysylltu dinesig), Undeb Bangor, ac M-SParc. Gyda’i gilydd, nod y partneriaid hyn yw meithrin perthynas gref rhwng y brifysgol a’r ddinas, gan annog ymchwil sydd o fudd i’r gymuned leol a’r rhanbarth.

Rwy’n wirioneddol ddiolchgar i Gyngor Dinas Bangor ac M-SParc am y gefnogaeth bwrsariaeth hon. Bydd yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu fy ymchwil ar dirweddau sain natur a lles dynol, gan ganiatáu i mi wella ansawdd yr astudiaeth, cysylltu â chynulleidfa ehangach, a rhannu’r wyddoniaeth yn ehangach gyda’r gymuned.

Joseph Roy, Ymchwilydd PhD mewn Eco-seicoleg yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor

Rydym ar ben ein digon o fod yn lansio’r project arloesol hwn. Mae’r posibilrwydd o ddarparu bwrsariaethau i fyfyrwyr, wrth iddynt ymgymryd ag ymchwil a fydd yn cynorthwyo Cyngor y Ddinas i wneud gwell penderfyniadau strategol, o fudd i bawb dan sylw. Fel hyn, bydd myfyrwyr yn cyfrannu’n uniongyrchol at gyfeiriad Bangor yn y dyfodol ac yn pontio’r bwlch rhwng astudiaethau academaidd a pholisïau lleol gwirioneddol.

Dr Martin Hanks, Cyfarwyddwr y Ddinas yng Nghyngor Dinas Bangor

Roeddem eisiau sicrhau bod y fwrsariaeth yn cefnogi arloesedd ac yn caniatáu i’r derbynnydd fasnacheiddio syniad ymchwil, felly rydym yn falch y bydd project Labordy Byw Joseph yn derbyn £1,000 ychwanegol gan M-SParc. Bydd Joseph yn cael ei wahodd i’n gofod #ArYLôn ym Mangor i weithio gyda staff, derbyn cefnogaeth fusnes, cael mynediad at offer prototeipio, a chael mewnwelediad gwerthfawr gan ein tîm wrth i ni gefnogi’r project. Mae cefnogi myfyrwyr a staff Prifysgol Bangor i fasnacheiddio syniadau arloesol yn y rhanbarth a chydweithio ar brojectau yn rhan o uchelgais M-SParc, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y project yn datblygu.

Emily Roberts, Rheolwr Allgymorth a Chymuned, M-SParc

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.