M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

M-SPARC YN CROESAWU MYFYRWYR O'R YSGOL FUSNES AR GYFER YMWELIAD DYSGU

Dydd Mawrth diwethaf, trefnodd Dr Siwan Mitchelmore ymweliad safle i’w myfyrwyr blwyddyn trydedd sy’n astudio entrepreneuraeth yn Ysgol Fusnes Bangor i gymryd rhan mewn ymweliad ysbrydoledig â Pharc Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor.

Mae M-SParc, y parc gwyddoniaeth gyntaf yng Nghymru, yn gartref i 52 o gwmnïau, y rhan fwyaf ohonynt wedi’u sefydlu yng Ngogledd Cymru; ac mae’n lleoliad perffaith i ysbrydoli’r myfyrwyr. Cawsant groeso (a the a choffi) yng nghaffi Tanio, lle soniodd Emily Roberts, Rheolwr Allgymorth a Chymuned M-SParc, am ddiben parc gwyddoniaeth, sut mae M-SParc ei hun yn rhedeg fel busnes, a’i brosiectau a ffrydiau incwm amrywiol.

Cafodd y myfyrwyr ddysgu am y cysylltiadau rhwng M-SParc a Bangor, gan gynnwys cyfleoedd interniaethau, profiad gwaith, mynediad at gymorth busnes i fyfyrwyr sy’n meddwl am ddechrau eu busnesau eu hunain, ac fe’u hannog i ddod i M-SParc i ‘hot-deskio’ (lle ar gael yn lleoliad M-SParc ym Mangor hefyd). Yn dilyn sesiwn holi ac ateb byr, cawsant gyflwyniad gan dri gwestai arbennig.

Josef, Anna, Emily, Dr Siwan, a Tom (chwith i dde).

Josef Roberts, graddedig Ysgol Bangor, drafododd ei lwybr o sefydlu cwmni i weithio i Animated Technologies, sydd wedi’i leoli yn M-SParc. Wnaeth Josef sôn am ei siwrne yn y byd fusnes, o fod yn gweithio i gwmni myfyrwyr yn swyddfa B-Enterprising yn M-SParc, i sefydlu Pai Language Learning a chael buddsoddiad, i weithio i gwmni arall yn M-SParc; yn dangos ei fod hi’n aml yn lwybr igam-ogam i gyrraedd eu nodau fel entrepreneur. Wnaeth ei gyflwyniad rhoi gwybod i’r myfyrwyr nad yw holl syniadau busnes yn llwyddo ar y tro cyntaf, a sut i oresgyn hyn a chynnal eu hewyllys.

Wnaeth Tom Burke, sefydlydd Haia, rhoi sylw i’w daith ei hun i entrepreneuriaeth, a sut mae o bellach yn rhedeg busnes tra hefyd yn gweithio i M-SParc. O symud i wlad newydd i weithio i gwmni animeiddio nad oedd yn bodoli erbyn iddo gyrraedd, i gyfarfod ar hap mewn tafarn a arweiniodd at ei gyfle cyntaf, rhoddodd Tom fewnwelediad onest i sut mae cyd-ddigwyddiadau weithiau’n rhan o’r broses wrth gamu tuag at Entrepreneuriaeth. Roedd ei gyflwyniad yn wers werthfawr am gadw’ch llygad ar y farchnad a’ch cystadleuwyr, gan sicrhau bob amser eich bod yn aros ar eich traed.

Finally, Anna Roberts, founder of Explorage, provided valuable insight into how she left her career of 20 years to become her own boss. Mae Explorage yn gwmni sy’n darparu gwasanaeth ar gyfer dod o hyd i a llogi unedau hunan-storio ym mha bynnag ardal rydych chi’n byw; rhywbeth sydd fel arfer ei angen ar bobl ar adegau mwyaf heriol eu bywydau. Dangosodd Anna nad oes rhaid i’r syniadau busnes gorau fod yn chwyldroadol, dim ond bod nhw’n ymateb i broblem sydd angen datrys. Mae Explorage bellach yn cyflogi 6 o bobl leol.

Cafodd yr ymweliad ei gloi gyda thaith o’r adeilad a’r adnoddau yn M-SParc, a chyfle i’r myfyrwyr gael amser un-i-un gyda’r tri sefydlydd, i ofyn cwestiynau ac i gael cyngor gan entrepreneuriaid profiadol. Gadawodd y myfyrwyr gydag ysbrydoliaeth, a gobeithiwn y byddwn yn eu gweld ym M-SParc ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, yn sefydlu eu busnesau eu hunain ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o Fyfyrwyr Busnes. Ariennir yr ymweliad gan Gronfa Datblygu Menter Prifysgol Bangor.

Cymorth

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw