Manteisiodd tîm M-SParc ar y cyfle i drafod ystod eang o brosiectau yn y parc sy’n cael eu cefnogi gan y CRF, o’r Academi Sgiliau i Miwtini Bach i brosiectau Carbon Isel a llawer mwy.
Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, Pryderi ap Rhisiart:
“Roedd yn wych croesawu Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth y DU, Sue Gray, i M-SParc heddiw i rannu ein gwaith gyda hi ar yr holl brosiectau cyffrous y mae ein tîm wedi bod yn eu datblygu yn ddiweddar.
“Roedd brwdfrydedd gwirioneddol gan yr Ysgrifennydd Parhaol am yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud felly roedd yn wych clywed hynny a chael y cyfle i’w chyflwyno i aelodau ein Hacademi Sgiliau a rhai o’r prosiectau eraill a ariennir gan CRF sy’n digwydd yn M- SParc ar hyn o bryd, fel Rowndiau Terfynol Miwtini Bach a oedd yn cynnwys dros 200 o ddisgyblion cynradd o bob rhan o’r ynys.”
Gallwch lawrlwytho a gweld ein hadroddiad i’r Ysgrifennydd Parhaol Sue Gray yma!