Daeth y digwyddiad lansio, a gynhaliwyd yn M-SParc ar 4 Mehefin, â chynrychiolwyr o’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), Rhwydwaith PatLib y DU, y byd academaidd, sefydliadau cymorth busnes ac arloeswyr o bob cwr o Gymru ynghyd i drafod rôl Eiddo Deallusol wrth yrru arloesedd, twf a llwyddiant masnachol.
Roedd y rhaglen yn cynnwys cyfraniadau gan Pierre Oliviere, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro, Arloesi Busnes a Buddsoddi yn yr IPO, Sue Lawson, Cadeirydd Rhwydwaith PatLib y DU, ac Emma Richards, Ymgynghorydd Polisi Rhanbarthol yn yr IPO. Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys trafodaeth banel yn archwilio sut y gall arloeswyr, crewyr a busnesau newydd gael mynediad at y gefnogaeth, y sgiliau a’r rhwydweithiau sydd eu hangen i droi syniadau yn llwyddiant masnachol.
Bydd PatLib Gogledd Cymru yn gweithredu fel porth rhanbarthol i rwydwaith PatLib ehangach y DU, gan ddarparu canllawiau ymarferol, cyfeirio a chefnogaeth i sefydliadau sy’n awyddus i ddeall a diogelu eu Heiddo Deallusol yn well.
Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc:
Dywedodd Cyfarwyddwr Gorfodi, Busnes a Rhyngwladol yr IPO, Natasha Chick:
Ychwanegodd Nia Roberts, Cyfreithiwr Patentau Ewropeaidd a Chyfarwyddwr M-SParc:
















Mae’r lansiad yn nodi pennod newydd ar gyfer cefnogi arloesedd yng Ngogledd Cymru, gan gryfhau ymhellach allu’r rhanbarth i ddatblygu, amddiffyn a masnacheiddio syniadau arloesol.
Mae PatLib Gogledd Cymru bellach ar agor ac ar gael i gefnogi busnesau, ymchwilwyr, crewyr ac entrepreneuriaid ledled y rhanbarth.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.