M-SParc yn mynd ag arloesedd yn ôl Ar y Lôn i’r ddinas fawr gyda #AryLondon

Mae M-SParc, unwaith eto, wedi arddangos Cymru fel cenedl o arloeswyr wrth ddod a’r Cymry Alltud ynghyd. Mae #AryLondon bellach yn gyfres flynyddol, yn galluogi diwydiant i rwydweithio ag ecosystem newydd, dysgu am fusnesau sydd yn codi arian, ac amlygu’r cymorth busnes sydd ar gael. Yn digwydd dros y 25ain a 26ain o Fedi eleni, roedd Canolfan Cymry Llundain ynghyd a ‘Four Agency HQ’ yn llwyfan ar gyfer siaradwyr cyffroes, sioe gomedi, a dathliad o beth sydd gan Gymru i gynnig.

Mewn cyfres o ddigwyddiadau a fydd yn ysbrydoli rhai o’r 300,000 o Gymry Alltud sydd yn byw yn Llundain, ac yn arddangos y gorau o’n gwaith arloesol yng Nghymru, cychwynnodd daith M-SParc #AryLondon gyda ffocysu ar yr ymgyrch ‘Dewch yn Ol’. Mae’r ymgyrch yma’n herio’r naratif nad oes gwaith sydd yn talu’n dda yng Nghymru, ochr yn ochr ac amlygu’r cymorth ariannol a mentora sydd ar gael i ddychwelyd adref. Sicrhaodd gwesteiwyr Hywel Pitts  a Gareth yr Orangutan fod y noson yn ddifyr gan ddefnyddio hiwmor i gyfleu’r neges mewn ffordd lai traddodiadol. Roedd y ffocws ar yr economi a hunangyflogaeth, gyda siaradwyr y paneli yn cynnwys AS Ynys Môn, Llinos Medi; Angel M-SParc, Martin Robinson; Sylfaenydd Darogan Talent, Dr Owain James; a Chynghorydd Datgarboneiddio Busnes Cymru, Dan Thomas.  

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc:

Roedd cael dod a thalent, syniadau, sgiliau, egni a brwdfrydedd o Gymru yma i Lundain yn fraint. Dyma gyfle unigryw i roi llwyfan i fusnesau arloesol o Gymru ac i amlygu pwer a phwysigrwydd cydweithio a’r cyfleoedd i fyw a gweithio yng Nghymru. Roedd hi’n braf iawn gweld y rhwydweithio a’r cysylltiadau newydd yn cael eu creu a dwi’n edrych ymlaen i weld gwaddol y gwaith.

Cynigwyd gymorth i’r rhai rhwng 16-25 oed yn y digwyddiad drwy fenter Syniadau Mawr Cymru / Busnes Cymru, gan ddarparu cymorth dechrau busnes. Dywedodd Lois Shaw, Rheolwr Rhaglen Busnes Cymru yn M-SParc:

Mae’n wych gallu rhannu’r neges am y gwasanaeth hwn mewn digwyddiad sydd yn targedu’r Cymru Alltud yn Llundain, yn enwedig y rhai sy’n ystyried symud yn ôl i Gymru i ddechrau menter newydd. Mae un o’r siaradwyr, Dan Thomas, yn enghraifft perffaith o’r hyn, wrth iddo siarad am ei daith ei hun yn gweithio yn Lundain cyn dychwelyd adref i rôl bwrpason a oedd yn talu hyd yn oed gwell na’i swydd yn y ddinas fawr.
Dan Thomas a Gareth yr Orangutan

Eglurodd Dr Owain James y gefnogaeth sydd gan Darogan Talent i gynnig i raddedigion, gan hysbysebu bwrdd swyddi cyfoethog sydd yn rhannu swyddi ar draws Gymru. Mae’r platfform ar-lein yn denu pobl ifanc yn ôl i weithio i Gymru, sydd mewn twrn yn cyfrannu at economi’r wlad. Yn yr un modd, tynnodd Martin Robinson sylw at y cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau bach trwy rhwydwaith Angel M-SParc, lle maent yn darparu cefnogaeth a/neu buddsoddiad i fusnesau newydd yng Ngogledd Cymru. 

Trwy’r chwerthin ac ensyniadau gan adloniant y noson, roedd un peth yn gyffredin i bawb, wrth i’r ystafell ddod at ei gilydd i gytuno ei bod hi’n hen bryd rhoi’r gorau i siarad Cymru i lawr. Dylem i gyd fod yn llysgenhadon dros y cyfleoedd anhygoel a’r arloesi gwych sy’n digwydd yma pob dydd, a gweithio i newid yr hen naratif blinedig ‘nad oes cyfleoedd yng Nghymru’. 

Nia, Ffion, Sioned a Matt yn Ysgol Gymraeg Llundain

Ar y Dydd Iau, ymwelodd swyddogion STEM M-SParc ag Ysgol Gymraeg Llundain, lle roedd cyfres o weithdai cyffrous i’r disgyblion drwy cyfrwng y Gymraeg, gan eu cyflwyno i’r adnoddau gwych sydd gan M-SParc i’w cynnig ar gyfer gwaith STEM. Dywedodd Emily Roberts, Rheolwr Allgymorth a Chymuned M-SParc:

Fe wnaethon ni brofi rhai o’n gweithgareddau gyda’r oedolion neithiwr, a oedd yn wych er mwyn cael mwy o bobl i ddod allan o’u cragen tra’n rhwydweithio! Heddiw, aeth plant Ysgol Gymraeg Llundain ati i ddysgu am yr afon Tafwys gan ddefnyddio codio, rhaglenni dylunio, a roboteg. Ffordd wych o ddangos ein holl adnoddau i ysbrydoli a uwchsgilio cenedlaethau’r dyfodol.

Nos Iau cawsom fynychu digwyddiad Connect to London a gynhelir gan GlobalWelsh a noddir gan M-SParc a oedd yn canolbwyntio ar ynni gwyrdd. Mewn sgwrs banel a gynhliwyd gan Andy Fryers, cyfarwyddwr cynialadwyedd Hay Festival, trafodwyd y cwestiwn ‘A yw dyfodol Cymru yn wyrdd?’ Roedd y panelwyr yn cynnwys Ben Burggraf, Prif Weithredwr Net Zero Wales; Helen Thomas, Arweinyd Tim Supply Chain Development, RWE UK & Ireland; a James Green, Arweinydd Mapio Cymdeithasol ar gyfer Ynni Bute 

O’r cychwyn cyntaf, cytunodd y panel fod Cymru yn sicr yn anelu at ddyfodol gwyrdd gan fod pwysigrwydd hyn yn effeithio ar ein dyfodol i gyd. Esboniodd Helen, “Ni fyddem yn gwario pe na baem yn gweld y potensial yng Nghymru” gan dynnu sylw at ehangu eu gwaith gyda fferm wynt Awel y Môr. “Mae angen i ni werthfawrogi Cymru, mae’n lle bywiog!” ychwanegodd James, sy’n frwd dros fapio materion cymdeithasol yng Nghymru, ac adeiladu ar y rhain i uwchsgilio ynni gwyrdd i roi dyfodol gwyrdd i Gymru. Crynhodd y panel fod Cymru’n llawn o bobl arloesol, angerddol a bod angen i ni gydweithio, ochr yn ochr â ffactorau fel buddsoddiad a chadwyni cyflenwi i gyrraedd ein nodau Net Sero.

Ni fyddem yn gwario pe na baem yn gweld y potensial yng Nghymru!

Helen Thomas, RWE UK & Ireland

Criw M-SParc yn ddigwyddiad GlobalWelsh.

Agorodd Pryderi Ap Rhisiart y sesiwn pitsio, lle roedd 7 busnes uchelgeisiol o Gymru a oedd yn gobeithio ennill buddsoddiad. Roedd y cynigion yn cynnwys: Celtic Minerals, Radnor Auto, Grounds for Good, Green Chilly, a dau fusnes sydd wedi eu leoli yn M-SParcTenet Consultants a HydroWing. Cyflwynodd Osian Roberts o HydroWing eu gwaith, gan gynnwys eu cyfraniad i Morlais ar Ynys Môn, a’u nod o godi £5M mewn ecwiti. Eglurodd Huw Brassington o Tenet Consultants sut maen nhw’n chwilio am gysylltiadau, ac am gyfnewid hynny am swyddi sy’n talu’n uchel, prentisiaethau a chymorth i economi Cymru. 

Daeth y daith i ben gyda rhwydweithio, ac roedd yn wych gweld cymaint o bobl eisiau mwy o wybodaeth am y gefnogaeth busnes sydd ar gael, holi ymhellach am ddychwelyd yn ôl i Gymru,  a cyfleoedd am fuddsoddiad. Yn adlewyrchu yn ôl ar ei daith ei hun, dywedodd Dan Thomas o Fusnes Cymru:

Nes i erioed feddwl bo’ cymaint yn digwydd yn ol yng Nghymru. Yn byw yn Llundain, roedd yn anodd edrych yn ol a meddwl pe tai yr un cyfleoedd ar gael. Fodd bynnag, rwyf wedi bod yn lwcus iawn cael y cyfle i weithio yn M-SParc a symud lan i Ogledd Cymru. Mae gymaint yn digwydd yn y sector breifat yng Nghymru, mae wedi bod yn agoriad llygaid mawr iawn i mi. Mae cyfrifoldeb arnom i gyd nawr i fynd ati i ledaenu’r neges bod modd dod yn ol!

Mae #AryLonDon yn brosiect sydd yn cael ei arwain gan M-SParc, Parc Gwyddoniaeth pwrpasol cyntaf yng Nghymru sydd ac angerdd am gefnogi busnesau Cymreig, sydd hefyd ar hyn o bryd yn cefnogi Cymdeithas Cymru yn Llundain gyda chefnogaeth ariannol gan Gronfa Her Arfor, rhaglen sydd yn ceisio hybu economi leol yng Nghymru a chadw talent Cymreig yma. Crynhodd Llio Roberts, un o drefnwyr #AryLonDon, ac Arweinydd Prosiect Cymru yn Llundain y daith yn Llundain wrth ddweud:

Rydym wedi cael dau ddiwrnod yn llawn sgyrsiau panel difyr a thrafodaethau personol, sydd yn rhoi’r sbotolau ar y talent a’r potensial sydd gennym ni yma yng Nghymru. Roedd ein nod o ddod a’r Cymry Alltud yn Llundain wedi’w gyrraedd, a ‘da ni gyd yn edrych ymlaen i barhau i wneud hyn at y dyfodol.

Mae #AryLon M-SParc yn parhau drwy gweddill y flwyddyn hyd at Wales Week yn 2025, gyda digwyddiadau cyffrous i’w rhannu efo chi yn fuan.  

Related News

Jordan Eardley

Swyddog Arloesedd Digidol #ArYLôn

Yn frwd dros dechnoleg, pobl ac antur – Jordan yw’r cyswllt digidol rhwng prosiectau ledled Gogledd Cymru. Boed yn drones, data neu weithdai, mae’n dod â phrofiad byd-eang a brwdfrydedd lleol (a straeon teithio o 39 o wledydd – gan gynnwys Transnistria!).

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.