M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

M-SParc yn tanio uchelgais i ddod yn Barc Gwyddoniaeth NetZero cyntaf erbyn 2030.

Charlie Jones
Mae M-SParc, parc gwyddoniaeth cyntaf Cymru, yn mynd i’r afael â newid hinsawdd ac yn anelu at fod y Parc Gwyddoniaeth Sero Net cyntaf yn y DU erbyn 2030 Ar ôl sefydlu ei ôl troed carbon eisoes dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r map i Sero Net bellach ar waith ac mae M-SParc yn y cyfnod cyflawni. Mae gan y cwmni uchelgeisiau i arwain y ffordd nid yn unig yn rhanbarthol ond yn genedlaethol ar y ffordd i Sero Net.

Dywed Rhodri Daniel, swyddog Carbon Isel yn M-SParc “Mae Sero Net yn golygu lleihau a gwrthbwyso’r allyriadau carbon o weithgareddau’r cwmni. Mae’n ymwneud â M-SParc fel busnes – yr adeilad, teithio, nwyddau traul, a’n holl weithredoedd unigol. Bydd dangos ei bod yn bosibl cyrraedd Sero Net yn ysbrydoli nid yn unig ein cymuned o 82 o gwmnïau tenantiaid (rhithwir a chorfforol), ond busnesau bach a chanolig a sefydliadau cyhoeddus ar draws gogledd Cymru a thu hwnt.”

Sefydlwyd tîm ‘Egni’ M-SParc i gefnogi’r galw cynyddol am weithgareddau ynni carbon isel yng ngogledd Cymru, ac mae arwain M-SParc i Sero Net yn rhan o’u cylch gorchwyl. Hyd yn hyn, cynhaliwyd adolygiad llawn o’r allyriadau carbon presennol, gosodwyd paneli solar pellach ar y safle ac mae mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar y gweill. Megis cychwyn yw hyn, ac mae map ffordd ar waith i gyflawni nod 2030.

Mae’r tîm hefyd yn mynd â’r gymuned ar y daith hon. Mewn digwyddiadau a gynhaliwyd yn M-SParc, a hyd yn oed ymhellach i ffwrdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, mae’r Tîm wedi bod yn annog pobl i ysgrifennu eu ‘haddewid carbon’ – gan awgrymu beth y gallent ei wneud i achub y blaned. Lansiwyd eu hymgyrch ddiweddaraf, ‘Diffodd y Sparc’, ym mis Medi 2022, gan annog tenantiaid M-SParc i ymuno â thaith Sero Net 2030. Roedd addewidion yn cynnwys diffodd yr holl blygiau a monitorau ar ddiwedd y diwrnod gwaith, troi rheiddiaduron i lawr yn eu swyddfeydd a gwisgo eu hwdis Diffodd y Sparc yn ystod misoedd y gaeaf!

Ymhellach, mae’r tîm wedi bod yn cynnig adolygiadau carbon isel wedi’u hariannu’n llawn i gwmnïau yng Ngwynedd a Chonwy, i’w helpu i leihau eu hallyriadau eu hunain. Mae 12 o fusnesau bach a chanolig mewn sectorau mor amrywiol ag atyniadau twristiaeth, orielau celf, a hyd yn oed trefnwyr angladdau wedi cael eu map ffordd eu hunain ar gyfer lleihau eu hallbwn carbon.

Mae map ffordd M-SParc 2030 hefyd yn ystyried ffyrdd ymarferol o helpu’r gymuned i frwydro yn erbyn yr argyfwng costau byw. Mae gwn gwres cymunedol ar gael i’w fenthyg gan M-SParc, fel y gall busnesau a’r gymuned weld lle mae gwres yn dianc o’u cartref a gweithredu, a thrwy hynny leihau defnydd a chost ynni Mae hyn wedi cael ei dderbyn yn llwyddiannus iawn, gyda busnesau a’r cyhoedd yn elwa’n aruthrol.

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, y Rheolwr Gyfarwyddwr, “Fel busnes mae dod yn Sero Net erbyn 2030 yn egwyddor flaenllaw, ac egwyddor graidd arall yw dod â’n cymuned gyda ni ar y daith hon. Rydyn ni eisiau bod yn arloeswyr yn y maes, defnyddio M-SParc fel labordy byw i brofi a datblygu cynhyrchion newydd a fydd yn mynd â ni i Sero Net ac i ysbrydoli sefydliadau a chymunedau ledled Cymru i gyrraedd niwtraliaeth garbon.”

Er mwyn addysgu pobl ymhellach, mae tîm Egni yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau amser cinio fel rhan o’u cyfres Egni. Byddant yn rhannu’r ymchwil a’r prosiectau y maent yn gweithio arnynt mewn seminar ar-lein am hanner awr ar ddydd Mawrth olaf pob mis! https://m-sparc.com/events/

Dywedodd Rhodri Daniel: “Wrth weithio i gyrraedd Sero Net 2030, rydym am sicrhau bod cymaint o gwmnïau â phosibl yn gallu dysgu o’r gwaith rydym yn ei wneud, gan fod yn esiamplau yn y rhanbarth. Gall Cymru arwain y ffordd. Rydym yn annog eraill i ymuno â’n digwyddiadau, ac eisiau clywed gan fusnesau eraill sydd am gydweithio ar y nod ochr yn ochr â ni. Gyda’n gilydd, gallwn ymateb i’r argyfwng hinsawdd.”

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.