Cynhaliwyd Wales Tech Week 2023 yr wythnos hon (16-18/10) yn yr ICC yng Nghasnewydd, ac roedd M-SParc yno i arddangos ein gwaith arloesol a’n tenantiaid rhagorol.
Wedi’i chyflwyno i chi gan Technology Connected, mae Wales Tech Week yn arddangos technoleg Cymru, ei hecosystem, ac yn hyrwyddo’r diwydiant ar y llwyfan byd-eang.
Ymunodd M-SParc â siaradwyr o’r radd flaenaf ar y llwyfan hwnnw ar gyfer sesiwn banel i drafod uwchsgilio, darganfod a mentora talent technoleg yng Nghymru, a darparu cyfleoedd gyrfa i raddedigion.
Meddai Emily Roberts, Rheolwr Ymgysylltu a Chymunedol M-SParc: “Yr hyn a ddaeth allan o’r trafodaethau oedd y sylweddoliad bod yndi, mae’n cymryd peth amser i raddedigion fod yn barod ar gyfer y gweithle, ond mae’n werth cymryd yr amser. Nid oes unrhyw weithiwr yn mynd i ddod i mewn i gwmni yn gwybod popeth, a manteision graddedigion yw nad ydynt wedi cael seibiant o ddysgu eto; felly nhw yw’r bobl orau i amsugno cymaint o wybodaeth â phosibl mewn cyfnod byr o amser.”
Yn ymuno â ni yn y digwyddiad hybrid i hyrwyddo talent o Gymru ar y llwyfan byd-eang oedd ein tenantiaid Animated Tech, Explorage, ValArt, Carnedd, a Brandified – a ddyluniodd ein stondin trawiadol.
Cafodd y cyflwyniadau a’r paneli trafod yn y digwyddiad eu ffrydio’n fyw gan ein tenantiaid Haia, a sefydlwyd ar y cyd gan ein Rheolwr Arloesedd Digidol newydd Tom Burke.
Dwedodd Tom: ““Fe wnaethom sefydlu Haia gyda’r weledigaeth y gallai digwyddiadau gael eu dyrchafu i lefel newydd o soffistigedigrwydd. Mae ein partneriaeth ag Wales Tech Week wedi dod â ni un cam yn agosach at y weledigaeth honno. Nid yw’n ymwneud â chynnal digwyddiadau yn unig; mae’n ymwneud â saernïo profiadau bythgofiadwy. Rydym wrth ein bodd bod Haia wedi chwarae rhan ganolog wrth wneud Wales Tech Week yn llwyddiant eithriadol.”
Mae’r ffaith bod digon o arloesedd technolegol yng Nghymru i gynnal digwyddiad mor fawr dros gynifer o ddyddiau yn glod i ni i gyd. Dylem fod yn falch ac yn hyderus i ddweud bod technoleg yn perthyn i Gymru, yn cael ei chreu gan Gymry, ac yn gallu cefnogi ein heconomi Gymreig.