Bydd y busnesau sydd wedi cofrestru ar ein cyflymydd i gyd yn cael cymorth busnes gan M-SParc i helpu eu busnesau i lansio, mynd â nhw i’r cam nesaf, a thyfu eu heffaith economaidd!
Drwy gydol y rhaglen hon, bydd y busnesau’n derbyn mentora un-i-un, mentora grŵp, a chyfleoedd buddsoddi posibl. Daw hyn i ben gyda digwyddiad arddangos, lle gall y busnesau gyflwyno eu cynllun busnes i ystafell o gymheiriaid a buddsoddwyr, gan ofyn am gyllid neu fentora i barhau â’u taith Lefel Nesaf!
Roedd ein carfan flaenorol yn llwyddiannus a pharhaodd pob busnes i dyfu, gan ddefnyddio y wybodaeth a gawsant ar y sbardun i dyfu, masnacheiddio a chyflogi.
Y cwmnïau sy’n ddigon ffodus i dderbyn cymorth ar y garfan hon yw Animated Technologies, PlantSea, Fortytwoable, Critterverse Ltd, Spontza Ltd a Real Ice Development Company Limited. Mae rhestr fer ar gyfer y drydedd garfan eisoes yn cymryd siâp!
Mae’r ail garfan eisoes wedi cael cyfle i ddod at ei gilydd yn ein digwyddiadau ‘Dyma M-SParc’ ar gyfer tenantiaid, lle bu modd iddynt ddechrau adeiladu eu rhwydwaith busnes a nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio.
Dymunwn yn dda iddynt ar y daith hon ac ni allwn aros i rannu eu cynnydd gyda chi wrth iddynt fynd!