M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Mae tenantiaid M-SParc wedi derbyn Cyllid i Dyfu a gwobrau am gydweithio

Emily Roberts

Mae M-SParc unwaith eto wedi gallu defnyddio elw eleni i roi cymorth ychwanegol i denantiaid, i helpu eu cwmnïau i dyfu a ffynnu!

Sefydlwyd grant Cyllid i Dyfu M-SParc i roi cyllid ychwanegol i denantiaid a thenantiaid rhithwir i’w cefnogi i dyfu, datblygu llwybr newydd i’r farchnad, neu gyflogi!

Mae £14,000 bellach wedi’i ddyfarnu i denantiaid gan gynnwys –

  • Pelly; Creu cytundebau cyfranddalwyr a derbyn cefnogaeth nod masnach. Gwaith hanfodol a fyddai fel arall yn faich ariannol enfawr ar fusnes newydd.
  • PlantSea; I brofi eu ffilmiau gwymon ar linellau diwydiannol, gan fynd â nhw gam yn nes at fasnacheiddio!
  • Fortytwable; I brynu drôn, gan alluogi ffocws agritech newydd i’r busnes.
  • Bleeper Services; Creu swydd llawn-amser, rheoli eu gwefan e-fasnach newydd.

Roedd M-SParc hefyd yn gallu cefnogi cydweithredu rhwng tenantiaid. Mae’r adeilad yn llawn o unigolion o’r un anian, ac mae’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn aml iawn ar garreg eu drws…neu yn y swyddfa drws nesaf! I gryfhau’r gymuned hon, mae tenantiaid a gydweithiodd yn cael eu gwobrwyo, gyda M-SParc yn cyfrannu at ran o’u costau Mae’r talebau cydweithio hyn yn cyfrannu at gost y gwasanaeth a ddarperir, a hyd yma maent wedi cefnogi:

– Mae KOPA yn rhoi cymorth marchnata i BaseLab Health a Loyalty Logistix
– Mae IE Engineering yn derbyn cymorth gan Dolen HR a The Business Pod
– Pelly cael cyngor ariannol gan IP Tax Solutions
– EvoMetric wedi gweithio gyda gwasanaethau Bleeper ar Ddatblygu Meddalwedd

Lois Shaw gyda Gianmarco, PlantSea

“Mae’n wych ein bod ni’n gallu rhoi’r cymorth ychwanegol hwn i’n tenantiaid, gan fynd â nhw’n nes at fasnacheiddio a’u helpu i greu swyddi, gan yrru economi gogledd Cymru ymlaen!

Lois Shaw, Swyddog Cefnogi Busnes a Datblygu Prosiectau

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw