M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Mae naw o fusnesau newydd cyffrous yn ymuno â Rhaglen Cyflymydd uchelgeisiol Parc Gwyddoniaeth Menai

Jamie Thomas

Mae M-SParc yn falch iawn o gyhoeddi’r garfan ar gyfer Lefel Nesaf, rhaglen Cyflymydd uchelgeisiol a lansiwyd gan y Parc Gwyddoniaeth ar gyfer busnesau newydd ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg Gogledd Cymru, i sbarduno twf busnesau arloesol yn y rhanbarth.

Mae naw busnes o bob rhan o ogledd Cymru wedi ymuno â’r rhaglen, a fydd yn cynnig mynediad at bum mis o fentora arbenigol, cysylltiadau byd-eang pwerus, buddsoddiad unigryw a chyfleoedd rhwydweithio, a mwy, i garfan fechan o sylfaenwyr.

Y naw busnes sy’n rhan o’r garfan gychwynnol yw Carbon AcCount, Curatec, Dewin Tech, Exploreage, Fusion Digital Health, Haia.live, Lion Dog Apps, Pai Language Learning a Pelly. Dyma amrywiaeth gyffrous o fusnesau o ystod eang o sectorau, mae’r sylfaenwyr eisoes wedi cael eu sesiynau hyfforddi cyntaf a chyfarfodydd Bwrdd Cynghori ac maent yn elwa’n sylweddol o Lefel Nesaf.

Tîm M-SParc, Olu, Lois a Pryderi yn eistedd ar gadeiriau traeth
Purple Quotation Mark 66

Wedi dim ond pythefnos, mae Lefel Nesaf eisoes yn cael effaith ar ein busnes. Rwyf eisoes yn llawer mwy gwybodus o ran sut y byddwn yn mynd ati i drin buddsoddwyr, beth fydd ein strategaeth gyffredinol yn y dyfodol, a beth sydd angen i mi ei gyflwyno i bobl y tu allan i'r cwmni. Os bydd y broses hon yn parhau, gallaf ei gweld yn cael effaith ddwys ar y cwmni a'i ragolygon.

Josef Roberts

Cyd-sylfaenydd Pai Language Learning

Purple Quotation Mark 99

Mae Bwrdd Cynghori Lefel Nesaf yn cynnwys 11 o arweinwyr busnes eithriadol, gyda chynrychiolwyr o gwmnïau fel Microsoft, Morlais, Ernst & Young, Banc Busnes Prydain a mwy.

Mae Prifysgol Bangor yn nodwedd amlwg o’r rhaglen Lefel Nesaf, gyda rhai o fusnesau’r garfan yn cael eu sefydlu gan raddedigion Bangor, a’r Bwrdd Cynghori yn cynnwys rhai o gyn-fyfyrwyr proffil uchel Prifysgol Bangor.

Purple Quotation Mark 66

Mae’n hynod gyffrous i M-SParc gymryd y cam hwn. Bydd Lefel Nesaf yn trawsnewid y dirwedd ar gyfer busnesau arloesol yn y rhanbarth ac yn cynnig pecyn hollgynhwysol, gan arfogi sylfaenwyr gorau a disgleiriaf y rhanbarth gyda’r offer i fynd â’u busnes i’r lefel nesaf. Mae ein henw da am ddarparu’r cyfleoedd gorau i fusnesau o’r fath yn y rhanbarth heb ei ail. Rydym wedi helpu i sicrhau miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i’n tenantiaid dros y blynyddoedd ac wedi darparu cymorth busnes o’r ansawdd uchaf, ond mae Lefel Nesaf yn cadarnhau ein huchelgais i fynd â hyn oll i’r lefel nesaf a gwneud gwahaniaeth sylweddol i fusnesau yn y rhanbarth ehangach.

Pryderi ap Rhisiart

Rheolwr Gyfarwyddwr, Parc Gwyddoniaeth Menai

Purple Quotation Mark 99
Purple Quotation Mark 66

“Yr hyn sy’n gosod Lefel Nesaf mewn cae arall yw’r cymorth cofleidiol sydd ar gael a’n ffocws ar gefnogi sylfaenwyr yn ogystal â busnesau. Ochr yn ochr ag ecosystem bwerus a chyfleoedd gwych, bydd y rhai sy'n cael eu dewis ar gyfer y rhaglen yn elwa o hyfforddiant un-i-un ymroddedig a chefnogaeth cymheiriaid drwy gydol y rhaglen. Bydd sylfaenwyr yn datblygu’r hyder, ffocws a gallu sydd eu hangen i arwain busnes twf uchel. Rydym yn canolbwyntio cymaint ar yr unigolyn ag y gwnawn ar y busnes, gan eu galluogi yn hytrach na'u haddysgu.

Olu Peyrasse

Arweinydd Rhaglen Cyflymydd Lefel Nesaf

Purple Quotation Mark 99

Gallwch ddilyn holl gynnydd y naw busnes sy’n cymryd rhan yn y rhaglen Lefel Nesaf trwy edrych ar sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefan M-SParc am ddiweddariadau rheolaidd dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Newyddion Perthnasol