M-SParc yn Cyflwyno Polisi Newydd i Gefnogi Gofalwyr Maeth

Mae M-SParc yn falch o gyhoeddi ei fod wedi dod yn gyflogwr sy'n cefnogi maethu, gan atgyfnerthu ei ymrwymiad i gefnogi gofalwyr maeth lleol, plant a phobl ifanc mewn gofal, a gweithwyr sy'n maethu ochr yn ochr â'u gyrfaoedd.

Gan weithio mewn partneriaeth â Maethu Cymru — rhwydwaith cenedlaethol timau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru — mae M-SParc wedi cyflwyno polisi sy’n gyfeillgar i faethu a gynlluniwyd i roi mwy o hyblygrwydd i weithwyr gydbwyso gwaith â chyfrifoldebau maethu.

Mae’r polisi’n darparu absenoldeb â thâl ychwanegol i gefnogi gweithwyr sydd ag ymrwymiadau maethu, gan gynnwys mynychu hyfforddiant, cyfarfodydd ac apwyntiadau, ymateb i argyfyngau, a helpu plant a phobl ifanc i ymgartrefu mewn cartref newydd.

Gyda mwy na 5,000 o blant ar hyn o bryd mewn gofal maeth ledled Cymru, mae cyflogwyr yn cael eu hannog fwyfwy i gefnogi gofalwyr maeth i gyfuno maethu â gwaith. Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, mae bron i 40 y cant o ofalwyr maeth hefyd yn cael eu cyflogi.

I Jordan, Arweinydd Prosiect AI ar gyfer Busnes Cymru yn M-SParc, mae ymrwymiad y sefydliad i faethu yn bersonol iawn.

Ar ôl tyfu i fyny mewn gofal ei hun, mae Jordan yn deall yn uniongyrchol yr effaith y gall gofalwyr maeth ei chael ar fywydau pobl.

Fel rhywun a fagwyd mewn gofal, mae hwn yn fater sy’n bersonol iawn i mi. Da ni wedi gweithredu polisi sy’n gyfeillgar i ofalwyr maeth yn M-SParc i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i weithwyr sy’n maethu, tra hefyd yn annog a chefnogi eraill i ddod yn ofalwyr maeth cymeradwy.
Mae’r polisi hwn yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae gofalwyr maeth yn ei wneud i’r gymuned leol a’r effaith barhaol sydd ganddynt ar fywydau’r plant a’r bobl ifanc yn eu gofal.
Mae maethu wedi cael effaith ddofn a chadarnhaol ar fy mywyd fy hun, gan lunio pwy ydw i heddiw. Heb y gefnogaeth a gefais gan ofalwyr maeth, ni fyddwn byth wedi mynd ymlaen i’r coleg, wedi adeiladu gyrfa, na chael y cyfleoedd sydd gennyf heddiw.

Jordan Eardley, M-SParc

Dywedodd Jordan mai un o’r pethau pwysicaf y gall gofalwyr maeth ei gynnig yw sefydlogrwydd.

Mae plant yn haeddu teimlo’n ddiogel ac i wybod ble maen nhw’n perthyn. Dwi’n gwybod sut beth yw cyrraedd rhywle newydd gan gario eich eiddo a gobeithio y bydd hwn yn lle lle da chi’n cael gofal a chefnogaeth. Rhoddodd y gofalwyr maeth a’m cefnogodd fwy na chartref i mi — rhoddon nhw hyder, amynedd, anogaeth, a’r gred nad oedd rhaid i’m gorffennol ddiffinio fy nyfodol.

Jordan Eardley, M-SParc

Mae M-SParc yn gobeithio y bydd dod yn gyflogwr sy’n cefnogi maeth nid yn unig yn cefnogi gofalwyr maeth presennol o fewn y sefydliad, ond hefyd yn annog eraill i ystyried maethu yn y dyfodol.

Croesawodd Meinir Bebb, Swyddog Marchnata Rhanbarthol Maethu Cymru, y cyhoeddiad.

Mae dod yn gyflogwr sy’n gyfeillgar i faethu yn rhywbeth i fod yn falch iawn ohono ac rydym yn diolch i M-SParc am eu hymrwymiad i gefnogi gofal maeth awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru.
Wrth i’r angen am ofalwyr maeth barhau i dyfu, mae estyn allan at gyflogwyr lleol i gefnogi maethu yn un o nifer o bethau rydym yn eu gwneud i gefnogi gofalwyr maeth ledled Gogledd Cymru. Rydyn ni’n gwybod pan fydd plant yn aros mewn cysylltiad, yn aros yn lleol, a bod ganddyn nhw rywun i’w cefnogi yn y tymor hir, rydyn ni’n gweld canlyniadau gwell.
Drwy gefnogi gweithwyr i ddod yn ofalwyr maeth, gall cyflogwyr chwarae rhan hanfodol wrth helpu mwy o blant i aros mewn cysylltiad â’u cymunedau ac adeiladu dyfodol mwy disglair.

Meinir Bebb, Maethu Cymru

Mae Maethu Cymru wedi gosod y nod o recriwtio mwy nag 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2028 i ddarparu cartrefi diogel a chroesawgar i blant a phobl ifanc lleol.

I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth, ewch i Maethu Cymru Gogledd Cymru.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.