
Rhaeadr o Ddata- Stori Lwyddiant
Mae dau o’n tenantiaid, EvoMetric a Lafan Consulting, wedi bod yn cydweithio ar brosiect o’r enw Dewin.Dwr. Nod hyn yw arloesi sut mae defnyddwyr yn profi am lygryddion mewn dŵr, gan chwyldroi ffermio o bosibl!
Yn M-SParc, gallwn gynnal cynadleddau gyda hyd at 120 o gynrychiolwyr. Ydym ni yn addas ar gyfer eich digwyddiad?
Mae gan ardal gynadledda Tanio Wi-Fi cyflym, rhad ac am ddim i’ch holl westeion.
Mae gennym hefyd arlwyo ar y safle, a ddarperir gan Becws Môn.
Mae M-SParc yn canolbwyntio ar garbon isel, ynni a’r amgylchedd, ACT, a chynhyrchion naturiol.
Mae digwyddiadau y tu allan i’r cwmpas hwn ond o fewn y gymuned fusnes yn cael eu cynnal.
Sylwch y bydd digwyddiadau nad ydynt yn y sector busnes yn cael eu hystyried yn ôl disgresiwn y Parc.
Ein horiau agor yw 8:30-5:00 Dydd Llun – Dydd Gwener, gallwn agor gyda’r nos os oes staff ar gael.
Mae’r gofod yn rhan o ardal y caffi cyhoeddus, ac felly sylwch na allwn warantu cyfrinachedd yn eich digwyddiad.
I drafod eich digwyddiad, cysylltwch!
Gallwn hefyd gynnig gwasanaethau Digwyddiad Hybrid, gan ddarparu camera PTZ a meicroffon i ffrydio’ch Digwyddiad yn fyw i gynulleidfa ehangach! Mae hyn yn gweithio gyda’n cyfrifiadur ein hunain, wedi’i ymgorffori yn ein darllenfa. Y gost ar gyfer ychwanegiad hybrid at eich Digwyddiad yw £50