Mae Myfyrwyr Mentrus wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd am fynd â’u syniad busnes i’r lefel nesaf, gan gynnig cymorth ymarferol i’w helpu i ddeall beth sydd ei angen i droi syniad yn fusnes hyfyw.
Dros gyfnod o chwe wythnos, bydd cyfranogwyr yn archwilio agweddau allweddol ar ddechrau a datblygu busnes, gan gynnwys cynllunio busnes, cyllid a marchnata. Byddant hefyd yn clywed gan arbenigwyr ac yn datblygu eu sgiliau cyflwyno syniadau, gan baratoi i gyflwyno eu syniadau er mwyn cael cyfle i sicrhau cyllid o £1,000, yn amodol ar Delerau ac Amodau’r rhaglen.
P’un a ydych chi yng nghamau cynnar archwilio syniad neu’n barod i ddechrau ei droi’n fusnes, mae Myfyrwyr Mentrus yn cynnig cyfle i chi feithrin hyder, datblygu sgiliau ymarferol a chymryd camau ystyrlon tuag at eich uchelgeisiau.
Bydd y rhaglen yn rhedeg yn ystod yr hydref, gyda sesiynau wythnosol yn M-SParc Ar Y Lôn ym Mangor. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, a bydd cyfranogwyr yn cael eu dewis o’r ceisiadau a dderbynnir.
Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr fod yn fyfyrwyr cofrestredig ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd, cael syniad busnes ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg neu’r sector creadigol, a gallu ymrwymo i fynychu’r sesiynau wythnosol.
Gwnewch gais i Myfyrwyr Mentrus cyn y dyddiad cau. Am ymholiadau, cysylltwch ag Anwen Pari Owen yn anwen.owen@bangor.ac.uk.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.