Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn mynd i'r afael â Heriau Technoleg yn M-SParc

Wythnos yma, croesawodd M-SParc grŵp o fyfyrwyr Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig dawnus o Brifysgol Bangor, mewn cyfle cydweithio cyffrous i roi profiad ymarferol i fyfyrwyr o ddatrys problemau byd go iawn.

Daeth y fenter hon â’r byd academaidd a diwydiant ynghyd, gan gysylltu myfyrwyr â gweithwyr proffesiynol ac entrepreneuriaid yn y Parc Gwyddoniaeth. Pwy a wŷr, ymhen ychydig flynyddoedd mae’n ddigon posibl y byddwn yn croesawu’r myfyrwyr yma’n ôl fel tenantiaid gyda’u cwmnïau eu hunain, neu fel staff i’r cwmnïau ddaru nhw gydweithio hefo!

Roedd y prosiect yn bosibl trwy ymdrechion David Evans, Josh Davies, a Dave Perkins o’r Brifysgol, a weithiodd ochr yn ochr â Tom Burke ac Emily Roberts o M-SParc i lunio’r profiad. Cyn iddynt gyrraedd, anfonodd Emily fideo at y myfyrwyr yn eu cyflwyno i M-SParc – gan eu helpu ddod yn gyfarwydd efo’r gofod a be’ i’w ddisgwyl o’r profiad. Y bwriad oedd i gefnogi unrhyw fyfyrwyr â phryder; er y byddai’r cwmnïau tenantiaid wedi bod yn hapus i ddod draw i’r Brifysgol, roedd yn bwysig bod y myfyrwyr yn profi realiti teithio i mewn i’r lle gwaith i gael y profiad llawn.

Unwaith yn M-SParc, cafodd myfyrwyr y cyfle i ddewis o gyfres o heriau busnes a osodwyd gan denantiaid M-SParc: Rob Shepherd o EvoMetric, Carwyn Edwards o Probit, ac M-SParc eu hunain. Cynlluniwyd yr heriau i annog meddwl arloesol, gyda themâu’n amrywio o dechnoleg sy’n cael ei gyrru gan ddata i atebion clyfar ar gyfer anghenion diwydiant lleol.

Ar draws pedair sesiwn, daeth y myfyrwyr i mewn i M-SParc, dewis eu prosiectau, ffurfio timau, a cychwyn ar y gwaith. Roedd yr awyrgylch yn llawn egni a chreadigrwydd, gyda myfyrwyr yn mynd ‘maen i faes codio, dylunio a datblygu – gan ddod â safbwyntiau ffres i’r datrysiadau. Daeth ffrwythau ffres i’r bwrdd hefyd, gan fod M-SParc yn darparu rhain ynghyd â the a choffi ar gyfer pob sesiwn i gefnogi’r myfyrwyr i ganolbwyntio ar eu tasgau. Roedd hyn yn arbennig o bwysig gan nad syniadau damcaniaethol oedd rhain; roedd y rhain yn broblemau gwirioneddol yr oedd busnesau go iawn yn eu hwynebu.

Roedd yr heriau’n amrywio o ddatrysiad adnabod platiau rhif, gwneud M-SParc yn adeilad mwy ‘SMART’, darllen y tywydd ar frig yr Wyddfa, a ffordd symlach ar gyfer dylunio tudalennau gwe. Rhoddwyd yr un tasg i fwy nag un tîm, er mwyn gallu dangos amrywiaeth o atebion, ac yn y diwedd gwelsom 7 tîm yn dod at ei gilydd i fynd i’r afael â’r heriau.

Dave, Ralph, Rob a Tom yn barnu'r pitsys

Daeth y rhaglen i ben gyda sesiwn cyflwyno o flaen cynulleidfa a oedd yn cynnwys tenantiaid M-SParc, myfyrwyr o Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, a’r datblygwr meddalwedd lleol Ralph McTaggart, a roddodd hefyd sgwrs dreiddgar am ei daith ei hun yn y byd technoleg.

Er bod y myfyrwyr yn nerfus, roedd ansawdd y cyflwyniadau yn eithriadol. Gwnaeth y lefel o feddwl, arloesedd a sgiliau technegol a ddangoswyd gan bob tîm argraff wirioneddol ar y rhai a oedd yn bresennol. O brototeipiau i gysyniadau caboledig, dangosodd y myfyrwyr nid yn unig allu technegol ond hefyd gwaith tîm, cyfathrebu ac ysbryd entrepreneuraidd. Doedd neb i weld wedi bod yn gweithio ar ei ben ei hun, ac roedd pob grŵp yn deall eu cynnyrch, ac yn gallu esbonio nid yn unig eu datrysiad ond eu methodoleg ar gyfer gweithio’n effeithiol fel tîm prosiect.

Mae’r cydweithio yma’n enghraifft wych o sut y gall prifysgolion a pharciau gwyddoniaeth fel M-SParc gydweithio i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr technoleg. Rydyn ni’n hynod falch o’r holl fyfyrwyr a gymerodd ran ac yn gyffrous i weld beth maen nhw’n ei wneud nesaf—boed hynny’n lansio eu cwmnïau eu hunain neu’n ymuno â’r gymuned fywiog yn M-SParc.

Gobeithio mai dim ond dechrau eu taith yw hyn, ac edrychwn ymlaen at eu croesawu yn ôl yn fuan!

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.