Wnaethom sefydlu ein huchelgeisiau sero net yn 2021 yn M-SParc, ac nid yn unig rydym yn gweithio tuag at y nod, ond rydym yn mynd â chymuned Busnesau Bach a Chanolig M-SParc gyda ni. Y buddsoddiad hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres o fentrau gan M-SParc, sy’n amrywio o sefydlu ein rhaglen Cerbyd Trydanol Cymunedol ac ymgyrch ymddygiad Diffod Y SParc, i welliannau mewn systemau adeiladu.
Bydd y cyllid, a sicrhawyd gan dîm Egni M-SParc, yn galluogi gosod pympiau gwres ffynhonnell aer, gan ddileu’r angen am wresogi nwy naturiol, ac ehangu cynhyrchu ynni solar ar y safle i 145kW, gan leihau dibyniaeth ar y grid cenedlaethol. Mae tîm Egni wedi bod yn gweithio i ddatblygu cynlluniau Net Sero cadarn a chynhwysfawr, ac mae ein targedau Sero Net 2030 wedi’u cymeradwyo gan y Fenter Targedau Seiliedig ar Wyddoniaeth (SBTi) – corff safoni o fri rhyngwladol – fel rhai sy’n bodloni gofyniad protocol Hinsawdd Paris 2015.
Mae’r cam uchelgeisiol hwn yn cyd-fynd â gweledigaeth Cymru ar gyfer dyfodol sero net ac yn cryfhau safle M-SParc fel arweinydd ym maes arloesi cynaliadwy.
Gan danlinellu pwysigrwydd cyflawniad M-SParc, ymwelodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ag M-SParc ddydd Iau, 6 Mawrth 2025. Yn ystod ei hymweliad, cafodd cyfarfod â rhai o fusnesau mwyaf blaengar y rhanbarth sy’n sbarduno arloesedd yn y sector carbon isel a chyflwynodd Ddigwyddiad Busnes Rhanbarthol Gogledd-orllewin Cymru, gan atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i economi gynaliadwy.
Rebecca Evans AS
Mae Ynni Cymru yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ehangu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned a lleol ledled Cymru. Mae eu cefnogaeth yn galluogi mentrau arloesol fel hyn i ysgogi newid ystyrlon yn nhaith Cymru i sero net.
Ailgadarnhaodd Rhys Horan, Cyfarwyddwr Rhaglen Ynni Cymru, ymrwymiad Llywodraeth Cymru:
Rhys Horan
Pwysleisiodd Dr Debbie Jones, Rheolwr Arloesi Carbon Isel yn M-SParc, effaith y cyllid:
Dr Debbie Jones
Ers ei sefydlu yn 2021, mae’r tîm Egni wedi bod yn allweddol wrth gefnogi busnesau ar draws Gogledd Cymru i ddatgarboneiddio, meithrin sgiliau a chyfleoedd cadwyn gyflenwi o fewn y sector, ac ysbrydoli pobl ifanc i ddilyn gyrfaoedd mewn STEM.
Gyda’r garreg filltir ddiweddaraf hon, mae M-SParc yn parhau i arwain trwy esiampl, gan ddangos nad targed yn unig yw dyfodol sero net – mae o fewn cyrraedd.
Awyddus i fesur ôl troed carbon eich cwmni a deall pwysigrwydd Sero Net? Gall M-SParc helpu!
Mae arweinwyr busnes a sefydliadau sydd am ddysgu o brofiadau M-SParc ac sydd eisiau dysgu beth mae Net Zero yn ei olygu yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y cwrs llythrennedd carbon achrededig fel man cychwyn trwy gysylltu â Rhodri Daniel. Mae manylion y cwrs i’w gweld yma.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.