Mae Bwa Niwclear y Gogledd-orllewin – NWNA – yn glwstwr unigryw ar gyfer y sector niwclear – ar draws Gogledd Lloegr a Gogledd Cymru. Gan ymgorffori’r holl gyfleusterau a galluoedd ar draws cylch oes cyfan niwclear – o danwydd i gynhyrchu ynni, rheoli gwastraff a datgomisiynu. Mae’r NWNA yn unigryw yn y DU ac yn cael ei gydnabod yn eang fel system niwclear hunangynhwysol o’r radd flaenaf, o’r dechrau i’r diwedd, a hynny o fewn daearyddiaeth gyfyng iawn.
Mae tîm Egni yn cefnogi NWNA fel cadeirydd, corff atebol ac ysgrifenyddiaeth y clwstwr, gan helpu gyda digwyddiadau, cyfarfodydd a deunydd cyfathrebu!
Wedi’i sefydlu yn 2017, Fforwm Niwclear Cymru yw’r lle canolog i fudiadau sydd â diddordeb yn y diwydiant niwclear yng Nghymru. Mae Fforwm Niwclear Cymru yn darparu’r newyddion diweddaraf, digwyddiadau ac mae’n cysylltu’n agos â rhwydweithiau niwclear / ynni rhanbarthol eraill ar draws y DU. Mae aelodau’n elwa o gael cymryd rhan mewn digwyddiadau rheolaidd a chymorth datblygu busnes.
Mae M-SParc yn aelodau o Fforwm Niwclear Cymru ac mae Dr Debbie Jones hefyd yn Gyfarwyddwr.
Daw’r Cydweithrediad Rhanbarthau Niwclear â phump o ranbarthau niwclear allweddol y DU at ei gilydd i gyflwyno llais rhanbarthol o fewn datblygiad y sector niwclear yn genedlaethol, i drosglwyddo gwybodaeth, ac i hyrwyddo galluoedd a phrofiad cadwyni cyflenwi lleol ledled y wlad. Mae’r cydweithrediad yn cynnwys saith clwstwr busnes a sefydliadau cadwyni cyflenwi o bob cwr o’r DU ac mae’n parhau i ehangu.
Mae’r Sefydliad Dyfodol Niwclear ym Mhrifysgol Bangor yn datblygu galluogrwydd, sydd gyda’r gorau yn y byd, mewn gwyddoniaeth a pheirianneg niwclear, o dan arweiniad yr Athro Bill Lee. Bydd hyn yn sefydlu Gogledd Cymru fel canolfan fyd-eang ym maes technoleg niwclear, gan feithrin cysylltiadau a chyfleoedd diwydiannol a chydweithio’n agos gyda’r diwydiant yn y DU.
Mae’r tîm Egni yn M-SParc a’r Sefydliad Dyfodol Niwclear yn cydweithio ar amrywiaeth o brosiectau ac yn cydweithio i gefnogi datblygiad yr ail adeilad yn M-Sparc a fydd yn cynnwys lle i arloesedd a labordy ar gyfer y Sefydliad Dyfodol Niwclear.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.