

NEWYDDION
Egni 2023 – Y Gynhadledd Net Sero yng Ngogledd Cymru!

Datblygu Cymru gynaliadwy sy’n fy ngyrru i’n ‘mlaen bob dydd. Cynaladwyedd yn ngwir ystyr y gair; yn economaidd, yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.
Yn fy mybl bach hunangyfiawn dwi’n credu bod fy ngwaith a gwaith arbennig y tîm yn M-SParc yn cyfrannu at danio uchelgais yn y rhanbarth, creu swyddi o safon, economi amrywiol, amgylchedd garbon isel tra’n cefnogi’n cymunedau a’r iaith. Siom o’r mwyaf felly oedd darllen canfyddiadau’r cyfrifiad ar y niferoedd o siaradwyr Cymraeg.
Cewch gip olwg ar y ffigyrau mewn cyflwyniad ar y pwnc drwy ddilyn y ddolen yma. Canolbwynt y sgwrs fydd y “Canran sy’n gallu siarad Cymraeg yn 2021” – 17.8% neu 538,300 o bobl, i lawr 1.2% neu 23,700 o bobl ers 2011.
Mae gostyngiad sylweddol yn niferoedd y plant sy’n medru’r Gymraeg tra bo’r ffigyrau’n dangos y gostyngiadau mwyaf yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn.
Mae arolwg blynyddol M-SParc yn dangos fod 76.92% o’n tenantiaid yn siarad neu yn dysgu Cymraeg ac yn wir yn elwa o gyflogau sydd yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.
Rydym hefyd yn falch o’n gwaith i gefnogi’r iaith gyda phob un aelod o staff yn medru’r Gymraeg ac ymyraethau penodol i gefnogi defnydd o’r iaith.
Rydym yn annog pobl i ddysgu drwy gynnal cyrsiau ac ymweliadau preswyl draw i Nant Gwrtheyrn ac yn rhedeg ymgyrch flynyddol ‘Dewch yn Ôl’ i helpu pobl i ddod adref i Gymru a cawsom y fraint o redeg a threfnu “Hac yr Iaith” ar gychwyn y flwyddyn yn ystyried y cyfleoedd i arloesi yn y maes.
Mae darparu’r sgiliau i weithio yn y sector yn hanfodol, nid yn unig gan bod diffyg sgiliau yn y sector wyddoniaeth a thechnoleg ond gan bod rhain yn swyddi da o safon a fydd yn caniatáu i’n pobl ifanc aros yma ac i’r rhai sydd mewn oedran gweithio i ddychwelyd yma. Mae rhaglenSTEM SParc wedi ei theilwra i ddarparu STEM drwy gyfrwng y Gymraeg ac i ymateb i’r cyfleoedd o’r cwricwlwm newydd. Mae cyfle euraidd yma nid yn unig i gau y bwlch sgiliau ond hefyd i sicrhau bod y Gymraeg i bawb o bob maes, gan gynnwys mewn gwyddoniaeth a thechnoleg.
‘Rydym hefyd yn falch o gefnogi sawl busnes sydd wedi’i selio ar yr iaith ac yn elwa o waith rhagorol Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor. Dros y flwyddyn diwethaf rydym wedi gweld cwmniau Pai Technologies, Haia ac Animated Technologies Ltd ynghyd ac app OgiOgi gan Menter Mon Ltd yn arloesi yn M-SParc gan greu swyddi a chefnogi’r iaith.
Mae gen i barch at ein dysgwyr yn M-SParc a mae nifer ohonynt sydd yn mynd ati ac yn llwyddo ond mae angen i ni fel siaradwyr rhugl gymryd amser a phwyll i ymarfer a pheidio a throi i’r Saesneg ar y cyfle cyntaf. Mae yna garfan hefyd sy’n medru’r Gymraeg ond sydd angen yr hyder i fynd ati i’w siarad.
‘Rydym fel sawl corff arall yn awyddus iawn i ystyried y cyfleoedd y bydd cynllun Arfor 2 yn ei gynnig i fynd ati i wireddu’r targed o gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae’r cysyniad yn gryf ac yn apelio, sut gallwn ddefnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, gynnal yr iaith? Dyna’r her i’r rhaglen a gafodd ei chyhoeddi yn Hydref 2022, cyfle arbennig i wneud gwahaniaeth.
Mae deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn nodi “Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu” fel un o’r 7 nôd. Fel un o ddeddfau mwyau pwerys i ddod i rym yn y blynyddoedd diwethaf mae angen i ni gymryd y iaith o ddifri. Yw’r gymraeg wedi cael sylw teg a chytbwys yn y gwaith arbennig sy’n mynd ymlaen gyda nodau eraill y ddeddf? Mae yn ac mi ddylai fod yn bosib i fod yn arloesol yn y Gymraeg.
Dwi’n falch o’n gwaith a’n cymuned o siaradwyr Cymraeg ac er bod ffigyrau heddiw yn siomedig mewn mannau mae angen ymfalchïo mewn llwyddiannau a’r cyfleoedd mae arloesi yn gynnig i’r dyfodol. Mae’n amlwg bod gwaith i’w wneud gyda’n pobl ifanc ac mae darparu rhaglen STEM drwy gyfrwng yr iaith wedi ei thrwytho yn y cwricwlwm newydd yn sicr yn rhan o’r datrysiad. Mae gweld effaith rhaglenni fel yr Academi Sgiliau a’r swyddi sy’n cael ei creu hefyd yn reswm i ni fod yn bositif a bydd cyfleoedd pellach drwy raglenni fel Arfor, o ymchwil Canolfan Bedwyr ac arloesedd ein tenantiaid.
Gyda thim pel droed Cymru yn glanio gartref o Qatar mae’n glir nad gofyn y gwestiwn mae Dafydd Iwan yn Yma o Hyd. Mynnu y “bydd yr iaith Gymraeg yn fyw” y mae Dafydd Iwan a dros 230,000 o blant a ymunodd ag o i ganu’r gan yn ddiweddar fel rhan o Jambori’r Urdd ac mae’n rhaid i ni hefyd fynnu a gwneud ein rhan wrth gyrraedd y nôd.
Beth am ambell i adduned cynnar eleni, maniffesto’r Cymraeg ar gyfer 2023?