Ydych chi erioed wedi meddwl y gallai taith o ynys fach oddi ar arfordir Cymru i Japan fod yn ymwneud ag arloesi iechyd? Fi chwaith – nes iddo ddigwydd! Trodd yr hyn a ddechreuodd fel taith boeth ac araf diolch i ddiwrnod poethaf y flwyddyn a thân lori yn Nhwnnel Conwy (helo, taith chwe awr i Faes Awyr Manceinion!) yn un o’r wythnosau mwyaf ysbrydoledig rydw i wedi’u cael ers amser maith.
Diolch byth, gadawodd fy nhaith awyr ar amser y bore canlynol, roedd y tyrbiwlans yn finimol, ac roedd y bwyd yn well na’r disgwyl – llwyddiant prin wrth hedfan!
Cefais y fraint o ymweld ag Osaka a Tokyo, gan gynrychioli M-SParc ar Genhadaeth Arloesi mewn Iechyd. Ymunon ni â Chenhadaeth Fasnach – Llywodraeth Cymru, ac fe gysylltom â sefydliadau ledled Japan, gydag un nod cyffredin: sbarduno cydweithrediadau newydd rhwng Japan a Chymru.
Ein stop cyntaf nodedig? Nakanoshima Qross yn Osaka — canolfan arloesi ar gyfer meddygaeth y dyfodol. Dychmygwch le lle mae’r byd academaidd, y diwydiant, a’r feddyginiaeth yn cwrdd o dan un to. Labordai meddygaeth adfywiol, mannau ar gyfer busnesau newydd, canolfan gynadleddau, a chyfleuster cynhyrchu celloedd iPS gan Brifysgol Kyoto. Roedd yn hynod ddiddorol gweld sut mae eu gweledigaeth yn cyd-fynd â’r hyn rydym ni’n ei wneud yn ôl ym M-SParc — o raglenni entrepreneuraidd i gefnogaeth fusnes gyflawn. Moment gwirioneddol “Dwyrain yn cwrdd â Gorllewin!”
Wedyn, aethom i Barc Biomeddygol Kobe. Yno, ymwelsom â sefydliadau arloesol fel Canolfan Feddygol Uwch-echel Air Water International a RIKEN. Wnaeth Air Water ein syfrdanu’n llwyr — o nwy diwydiannol i feddyginiaeth adfywiol dannedd (ia, celloedd craidd o ddannedd babanod!), maen nhw’n archwilio rhai o’r meysydd mwyaf anhygoel mewn technoleg iechyd.
Un o’r uchafbwyntiau clir oedd rhagolwg o Expo’r Byd 2025 yn Osaka. Roedd pafiliwn y DU, wedi’i ysbrydoli gan flociau adeiladu plentyn, yn ddelwedd berffaith o arloesi — syniadau bach yn adeiladu rhywbeth mawr. Yn ystod “Dydd Technoleg Iechyd Cymru,” clywsom gan arloeswyr Cymreig fel Lucerne Scientific, Creo Medical, Bomper Studio, a Goggleminds. Roedd yn arbennig o braf gweld un o’n Tenantau Rhithwir, Elliot Riley-Walsh, yn bresennol hefyd.
Cefais hefyd y cyfle i gyflwyno yn Nigwyddiad Rhwydweithio Biotechnoleg a Fferyllol Osaka, gan dynnu sylw at ecosystem arloesi Gogledd Cymru a’r hyn y mae M-SParc yn ei gynnig i fusnesau. Roedd hi’n wych gweld diddordeb gwirioneddol mewn arloesi o Gymru — roedd y gynulleidfa yn glustiau i gyd!
Aeth y cam nesaf â ni i’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Arloesi Biofeddygol, Iechyd a Maeth yn Saito. Roedd eu gwaith ar heneiddio’n iach a chreu cymdeithas sy’n barod ar gyfer y dyfodol yn drawiadol ac yn ysgogi meddwl. Wedyn, ymwelsom ag Ysbyty Prifysgol Osaka, lle cawsom ein cyflwyno i dechnolegau gofal iechyd arloesol sy’n torri tir newydd. Oeddech chi’n gwybod bod Fujifilm yn gwneud mwy na chamerâu?
O’r fan honno, aethom i Japan Health 2025, ffair fasnach ryngwladol enfawr yn dod â chwaraewyr byd-eang ym maes gofal iechyd a thechnoleg feddygol ynghyd. Roedd gan Lywodraeth Cymru bresenoldeb cryf yma hefyd, gan hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cydweithio a buddsoddi yng Nghymru.
Dechreuodd ein diwrnod yn Tokyo gyda’r trên bwled enwog (yndi, mae wir mor gyflym â hynny – 300 milltir mewn cwpl o oriau yn unig!). Y stop cyntaf: Weltech yn Kawasaki, ac yna sesiwn wych gyda myfyrwyr prifysgol yn Nishida Lab, a rannodd rai atebion iechyd gwirioneddol arloesol. Gorffennom y diwrnod gyda thaith o amgylch Pencadlys Fujifilm yn Tokyo – mwy o dechnoleg arloesol a chipolwg ar ddyfodol gofal iechyd Japan.
Am antur! O Ynys Môn i Osaka i Tokyo ac yn ôl — roedd y daith hon yn llawn arloesedd, syniadau, a phobl ysbrydoledig. Dysgais gymaint, creais gysylltiadau amhrisiadwy, a gwelais â’m llygaid fy hun sut y gall Cymru chwarae rhan allweddol wrth lunio dyfodol iechyd byd-eang.
Trwy feithrin partneriaethau parhaol, gallwn greu byd iachach – un cydweithrediad ar y tro.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.