Mae Sbardun yn derbyn ceisiadau nawr trwy wefan M-SParc, a bydd yn cynnig mynediad i garfan fechan o sylfaenwyr uchelgeisiol i raglen bum mis o fentora arbenigol, cysylltiadau byd-eang pwerus a chyfleoedd buddsoddi a rhwydweithio unigryw, a mwy.
Gan helpu perchnogion busnes uchelgeisiol i ddatblygu’r sgiliau, y ffocws a’r hyder sydd eu hangen i arwain busnes newydd llwyddiannus, bydd Sbardun yn cynnig pecyn cynhwysfawr o gymorth, arweiniad a chyfleoedd wedi’u hadeiladu ar seiliau enw da M-SParc o ragoriaeth yn y rhanbarth.
Wrth siarad cyn lansio’r rhaglen, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai, Pryderi ap Rhisiart:
Mae’n hynod gyffrous i M-SParc gymryd y cam hwn. Bydd Sbardun yn trawsnewid y dirwedd ar gyfer busnesau arloesol yn y rhanbarth ac yn cynnig pecyn hollgynhwysol, gan arfogi sylfaenwyr gorau a mwyaf disglair y rhanbarth gyda’r offer i fynd â’u busnes i’r lefel nesaf.
Mae ein henw da am ddarparu’r cyfleoedd gorau i fusnesau o’r fath yn y rhanbarth heb ei ail. ydym wedi helpu sicrhau miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i’n tenantiaid dros y blynyddoedd a darparu cymorth busnes o’r safon uchaf. Mae lansio Sbardun yn cadarnhau ein huchelgais i fynd â hyn i gyd i’r lefel nesaf a gwneud gwahaniaeth sylweddol i fusnesau yn y rhanbarth ehangach.
Ychwanegodd Olu Peyrasse, sy’n arwain Rhaglen Sbardun:
Yr hyn sy’n gosod Sbardun ar wahân i eraill, yw’r cymorth cofleidiol sydd ar gael a’n ffocws ar gefnogi sylfaenwyr yn ogystal â busnesau.
Ochr-yn-ochr ag ecosystem bwerus a chyfleoedd gwych, bydd y rhai sy’n cael eu dewis ar gyfer y rhaglen yn elwa o hyfforddiant un-i-un ymroddedig a chefnogaeth cymheiriaid drwy gydol y broses.
Bydd sylfaenwyr yn datblygu’r hyder, ffocws a gallu sydd eu hangen i arwain busnes twf uchel. Rydym yn canolbwyntio cymaint ar yr unigolyn ag y gwnawn ar y busnes, gan eu galluogi yn hytrach na’u haddysgu.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Iwan Davies:
Rwy’n falch iawn o weld M-SParc gan Brifysgol Bangor yn lansio’r rhaglen uchelgeisiol hon. drychaf ymlaen at weld sut y gall aelodau o’n cymuned ragorol o Alumni yma ym Mhrifysgol Bangor ychwanegu gwerth gwirioneddol at y busnesau newydd arloesol a chyffrous a fydd yn elwa’n fawr o gymryd rhan yn y cyflymydd.
M-SParc areMae M-SParc yn chwilio am sylfaenwyr sydd ag uchelgais i ehangu eu busnes ac sy’n barod i ymwneud â grŵp o arweinwyr o’r un anian.
Bydd angen i chi ddangos tyniant cychwynnol, boed yn refeniw, buddsoddiad, cwsmeriaid neu eiddo deallusol, a chyflwyno eich cynlluniau ar gyfer twf dros y 6-12 mis nesaf.
Bydd y rhaglen yn gyfuniad o sesiynau personol ac o bell, gyda’r cyfan yn cychwyn ym mis Mawrth.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar Chwefror 17eg.