M-SParc a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn Creu Partneriaeth Strategol i yrruArloesedd mewn Iechyd a Gwyddorau Bywyd

Author picture

Mae M-SParc a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o gyhoeddi partneriaeth newydd a chyffrous, igyflymu arloesedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd y cydweithrediad newydd hwn yn cysylltu arloeswyr, ymchwilwyr, clinigwyr ac entrepreneuriaid sy’nmeddwl ymlaen ac yn creu piblinell gadarn o brosiectau a busnesau cyffrous. Bydd cyfuno ecosystem arloesi bywiog M-SParc â gwybodaeth a rhwydweithiau arbenigol y sector Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn helpu i wireddu syniadau arloesol, gan ddarparu buddion iechyd ac economaidd.

Yn gartref i dros 50 o fusnesau arloesol, mae M-SParc yn cefnogi uchelgais, arloesedd a menter ledledCymru – gan adeiladu ecosystem gysylltiedig, gydweithredol sy’n tanio uchelgais a chynnydd. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn bodoli i helpu i yrru arloesiadau ysbrydoledig ym maes gwyddor bywyd iddefnydd rheng flaen mewn iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Mae’r sefydliad sydd wedi’i leoliyng Nghaerdydd yn cefnogi diwydiant, y byd academaidd, iechyd a gofal cymdeithasol i wneud Cymru ynlle o ddewis ar gyfer arloesi iechyd, gofal a lles.

Ch i Dd: Colette Buckley, Naomi Joyce, Ian Barwick, Marie Latham-Jones, Leanne Price, Jason Lintern, Lynne Grundy, Gwenllian Owen
Syniadau Lleol, Effaith Byd-eang

Nod y bartneriaeth yw meithrin prosiectau sy’n datrys heriau iechyd y byd go iawn, boed hynny drwyatebion iechyd digidol, dyfeisiau meddygol a datblygiadau biotechnolegol. Gyda’i gilydd, bydd y sefydliadau’n darparu canllawiau, mynediad at gefnogaeth arbenigol a llwyfan cydweithredol i arloeswyr ymmhob cam o’u datblygiad.

Mae cydweithio â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi bod yn allweddol wrth gyflawni mentraueffeithiol fel y rhaglen Iechyd a Mwy, dw i bellach yn arbennig o gyffrous wrth i ni lansio einpartneriaeth strategol newydd, sy’n nodi newid sylweddol yn y ffordd dan ni’n gyrru arloesedd iechyd yng Ngogledd Cymru. Gyda’r ysgol feddygol newydd ym Mhrifysgol Bangor ar ein stepan drws, mae’r cydweithrediad yma rhwng M-SParc a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru mewn sefyllfa berffaithi gataleiddio newid ystyrlon mewn iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y rhanbarth.

Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr, M-SParc

Mae partneru ag M-SParc yn caniatáu inni gysylltu ag arloeswyr ledled gogledd Cymru mewnffordd fwy ystyrlon. Mae’n ymwneud â chreu cyfleoedd ar gyfer cydweithio, cefnogi mentrau newyddcyffrous ac yn y pen draw sicrhau canlyniadau iechyd gwell i gleifion.

Dr Naomi Joyce, Pennaeth Partneriaethau, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Beth sydd Nesaf?

Bydd y cylch cyntaf o brosiectau cydweithredol yn cynnwys gweithdai arloesi, ceisiadau am gyllid a digwyddiadau penodol i’r sector a fydd yn annog cydweithio rhwng y byd academaidd, y GIG a diwydiant. Gan fod sylfeini cryf ar waith bellach, mae M-SParc a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn edrych ymlaen at ddyfodol lle bydd arloesi Cymru yn cyfrannu at atebion iechyd byd-eang.

Os ydych chi wedi’ch lleoli yng ngogledd Cymru ac yn dymuno cydweithio neu’n credu y byddech chi’n elwa o gefnogaeth i ddatblygu eich syniadau, cysylltwch â gwenllian@m-sparc.com am sgwrs gychwynnol.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.