Ers Mehefin 2026, mae M-SParc yn cynnig gwasanaeth newydd i fusnesau/arloeswyr/entrepreneuriaid wrth i M-SParc agor Llyfrgell Patent i wasanaethu’r rhanbarth.
Ar draws Prydain, mae rhwydraith o Lyfrgellau Patent (PatLib), a M-SParc fydd 25ain PatLib y DU a’r cyntaf ar Ynys Môn, gan gynnig cefnogaeth ac arweiniad dwyieithog i fusnesau, busnesau newydd, busnesau bach a chanolig, ymchwilwyr ac arloeswyr ledled Gogledd Cymru.
Gyda cynghorwyr Eiddo Deallusol (IP) hyfforddedig, gallwn ddarparu cefnogaeth ac arweiniad ymarferol ar Hawliau Eiddo Deallusol (IPR), gan gynnwys patentau, nodau masnach, hawlfraint a diogelu dyluniadau.
Daw’r ddarpariaeth newydd yma ar adeg o ffocws cynyddol ar dwf economaidd dan arweiniad arloesedd ledled Gogledd Cymru, gyda chyfleoedd cynyddol yn dod i’r amlwg mewn sectorau sy’n gyfoethog o ran eiddo deallusol fel technoleg, ynni, ymchwil a diwydiannau uwch. Nod y gwasanaeth PatLib newydd yw amddiffyn, datblygu a masnacheiddio syniadau’n well yn lleol, gan helpu arloeswyr i ddeall sut i amddiffyn a datgloi gwerth llawn eu heiddo deallusol o fewn eu sefydliad.
Bydd Llyfrgell Patentau Gogledd Cymru hefyd yn cryfhau rôl M-SParc ymhellach fel canolfan ar gyfer arloesi, menter a chydweithio yng Ngogledd Cymru, gan gefnogi sefydliadau ym mhob cam o’u taith twf.
Ymhlith y gwasanaethau a ddarperir gan Lyfrgell Patentau M-SParc mae:
I drefnu apwyntiad, ebostiwch patlib@m-sparc.com
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.