Mae M-SParc, parc gwyddoniaeth bwrpasol cyntaf Cymru, wedi’i cyhoeddi fel cartref Canolfan Arloesedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a lansiwyd mewn digwyddiad arbennig yn y Parc Gwyddoniaeth fore dydd Iau 23 Tachwedd 2023.
Bydd yr Hwb yn ganolfan ymchwil a datblygu ar gyfer arloesi pêl-droed yng Nghymru, gan greu cyfleoedd i fusnesau ac academyddion o bob rhan o Gymru fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu’r gêm.
Y nod yw arloesi yn y maes a thrwy hynny gyfrannu at ffyniant economaidd y wlad.
Trwy ddefnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg i helpu datrys heriau sy’n wynebu’r gêm fodern fel VAR, amodau’r cae, materion carbon ac ynni, protocolau cyfergyd, a meysydd sy’n dod i’r amlwg fel esports, lle mae’r chwaraewyr gorau oll yn cystadlu’n rhithiol, nod y bartneriaeth yw i Gymru ddod yn arweinwyr mewn arloesi pêl-droed yn fyd eang.
Roedd y lansiad yn proffilio nifer o gwmnïau arloesol M-SParc, sydd eisoes yn gweithio yn y sector Pêl-droed, yn arddangos eu prosiectau a’u syniadau arloesol yn uniongyrchol i banel o’r FAW sy’n cynnwys Sophie Howe (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru), y Prif Weithredwr Noel Money, ac arwr pêl-droed Cymru Ian Rush. Pa ffordd well o gychwyn y bartneriaeth na thrwy ddechrau cydweithrediadau arloesi o ddiwrnod 0?
“Mae’n bleser mawr gen i lansio’r fenter gyffrous hon heddiw ac i weithio mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Bêl-droed i wynebu’r heriau y mae’r gêm yn eu hwynebu yng Nghymru, a nodi’r cyfleoedd i ddatblygu ymatebion arloesol i’r heriau hynny yma yng Nghymru.”
Pryderi ap Rhisiart, M-SParc
“Mae arloesi yn rhan hanfodol o adeiladu Cymru decach, wyrddach a mwy cydnerth. Bydd y bartneriaeth hwb arloesi hon rhwng CBDC ac M-SParc yn gyfle gwych i ddatblygu dulliau ac atebion newydd i’r heriau y mae’r byd pêl-droed yn eu hwynebu. Bydd yn dod â’r gymdeithas bêl-droed ynghyd ag academyddion ac entrepreneuriaid blaenllaw a bydd yn rhan hanfodol o daith gynaliadwyedd CBDC.”
Sophie Howe, Chair of the FAW’s sustainability Advisory Panel
“Rydym yn gyffrous iawn i fod yn lansio canolfan arloesi CBDC yma yn M-SParc yn Ynys Môn heddiw. Yn CBDC mae gennym weledigaeth i Gymru fod yn arweinydd byd o ran cynaliadwyedd ac rydym yn gweld hyn yn gam pwysig ar y daith honno. Fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru mae gennym ddealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu cymdeithasau a chlybiau pêl-droed ar draws y byd drwy’r gwaith rydym yn ei wneud gyda chyrff fel UEFA a FIFA. Gyda’r canolbwynt arloesi hwn, byddwn yn gallu cymryd yr heriau hynny o bob rhan o’r byd a dod â nhw i’r meddyliau gwych yma yn M-SParc yn Ynys Môn, Gogledd Cymru, a gweithio gyda nhw i ddod o hyd i atebion. Rydym yn ei weld fel lle i bawb ar eu hennill – bydd yn ein cefnogi ar ein taith i fod yn arweinydd byd ym maes cynaliadwyedd a bydd hefyd yn dod â chyfleoedd gwych i’r entrepreneuriaid a’r academyddion yn M-SParc ac o fewn ei rwydwaith.”
Noel Mooney, CEO of the FAW
O gwestiynau syml i ymholiadau cymhleth, rydym yn hapus i sgwrsio am yr hyn sydd ei angen arnoch.
Ffoniwch ni ar 01248 85800 neu anfonwch e-bost atom yn uniongyrchol .